Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:33 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Roedd ein cais rhyddid gwybodaeth yn dangos yn glir bod angen mwy o dryloywder yn hyn o beth. Felly, er nad yw’r gwelliant hwn yn dadlau gwerth amser cyfleuster, rwy'n meddwl ei bod yn deg ac yn gyfiawn ein bod yn galw am gyhoeddi hyn. Mae'n hanfodol bod tryloywder a gonestrwydd yn gynhenid yn sector cyhoeddus Cymru—mae’n hanfodol eu bod yn gynhenid yn unrhyw waith a wnaiff y Cynulliad Cymru hwn—i sicrhau bod amser cyfleuster yn gweithio ar gyfer aelodau undeb, yn gweithio ar gyfer cyflenwi yn y sector cyhoeddus, ac, yn y bôn, yn gweithio i sicrhau cost-effeithiolrwydd ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.