Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:34 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 3. Mae'r gwelliant hwn, wrth gwrs, yn cyfeirio at y trothwy pleidlais o 40 y cant ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd undebau llafur fel sefydliadau gwerthfawr yng nghymdeithas Prydain ac yn gwybod bod gan lawer o undebwyr llafur ymroddedig hanes cryf o weithio’n galed i gynrychioli eu haelodau, ymgyrchu am well diogelwch yn y gwaith a rhoi cefnogaeth i'w haelodau pan fo ei angen. Fodd bynnag, credaf nad yw ond yn deg ein bod yn cydbwyso hawliau undebau â hawliau trethdalwyr gweithgar sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol o ddydd i ddydd—[Torri ar draws.]