9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:34 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Grŵp 3—mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â gofyniad ynghylch pleidlais gan undeb llafur cyn gweithredu a dileu diffiniadau o awdurdodau datganoledig Cymreig. Gwelliant 3 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn, ac rydw i’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am welliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 3. Mae'r gwelliant hwn, wrth gwrs, yn cyfeirio at y trothwy pleidlais o 40 y cant ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd undebau llafur fel sefydliadau gwerthfawr yng nghymdeithas Prydain ac yn gwybod bod gan lawer o undebwyr llafur ymroddedig hanes cryf o weithio’n galed i gynrychioli eu haelodau, ymgyrchu am well diogelwch yn y gwaith a rhoi cefnogaeth i'w haelodau pan fo ei angen. Fodd bynnag, credaf nad yw ond yn deg ein bod yn cydbwyso hawliau undebau â hawliau trethdalwyr gweithgar sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol o ddydd i ddydd—[Torri ar draws.]
Nid pantomeim yw hwn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn, yn cynnal trafodaeth a dadl briodol ynglŷn â darn o ddeddfwriaeth y gallai fod ar fin ei basio. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Gan fod streiciau’n cael effaith mor fawr ar fywydau arferol grŵp mor fawr o bobl, mae'n synhwyrol bod streiciau, pan fo angen, yn cael eu hategu gan lefel briodol o gefnogaeth gan y rhai dan sylw. Ceisiodd Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn 2016 greu deddfwriaeth ymarferol sy'n addas at ei diben yn ein marchnad economaidd fodern, hylifol. Yr hyn nad ydym am ei weld yw lleiafrif bach o aelodau undeb yn amharu ar fywydau miliynau o gymudwyr, rhieni, gweithwyr a chyflogwyr ar fyr rybudd, a heb gefnogaeth glir gan aelodau’r undeb—sefyllfa sydd â'r potensial i roi enw drwg i undebau yng ngolwg y cyhoedd.
Ar hyn o bryd mae 30 y cant o weithlu Cymru’n aelodau o undeb llafur. Mae hyn yn llawer mwy na chyfartaledd y DU, sef 21 y cant, ac yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Fel y cyfryw, bydd effaith pleidleisiau undebau llafur yn creu goblygiadau mwy pellgyrhaeddol i'r wlad hon, ac mae angen inni ystyried effaith y Bil hwn ar fywydau bob dydd pobl ledled Cymru a'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mawr eu hangen. Mae adran Llywodraeth y DU ar gyfer data busnes, egni, arloesi a sgiliau wedi canfod bod y dyddiau cyfunol a gollir yn sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol wedi cyfrif am y mwyafrif helaeth o ddyddiau a gollir bob blwyddyn ers 2008. Mae'r sectorau hyn yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ein diogelwch, ein lles a'n datblygiad, ac felly mae’n rhaid i weithredu streic fod yn deg ac yn ddemocrataidd. Fel y mae, nid yw cynigion Bil Llywodraeth Llafur Cymru yr un o'r pethau hynny. Fel y saif y gyfraith, bydd Deddf Llywodraeth y DU yn rhoi trothwyon pleidleisio llymach a fydd yn lleihau gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel trafnidiaeth, iechyd ac addysg 35 y cant, gan arbed 1.5 miliwn o oriau gwaith y flwyddyn rhag streic. Ar ben hynny, bydd y mesurau yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU hefyd yn darparu hwb o £10 miliwn i economi Cymru dros 10 mlynedd. Bydd yn diogelu cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru rhag effeithiau streic annemocrataidd. Bydd y gwelliant hwn, felly, yn sicrhau, os bydd streiciau’n digwydd, y bydd hynny o ganlyniad i fandad clir, democrataidd a phenderfyniadau gan aelodau undeb, diolch i gyflwyno trothwyon pleidleisio llymach.
Wel, os soniais yn y dadleuon am y ddau grŵp blaenorol o welliannau nad yw’r Torïaid yn ei deall hi, nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy gwir nag ynglŷn â'r gwelliannau hyn ar bleidleisio. Efallai y cafodd rhai o'r Ceidwadwyr Cymreig eu magu dan ddylanwad athroniaeth Thatcher o gwmpas undebau llafur. Rydych yn cofio’r undebau llafur cas hynny wedi’u dominyddu gan y barwniaid anghynrychioliadol ag un nod yn unig mewn bywyd, sef galw eu haelodau ar streic heb reswm da ar fyr rybudd, a hynny i gyd gan ddiystyru barn eu haelodau’n llwyr. Wel, gadewch imi ddweud wrth y Torïaid rhywbeth a allai fod o ddiddordeb iddynt. Yr oll yw undebau llafur yw sefydliadau lle mae gweithwyr yn dod at ei gilydd i amddiffyn eu buddiannau yn y gwaith. A rhywbeth arall a allai fod o ddiddordeb i Janet Finch-Saunders yw bod y gweithwyr hynny hefyd yn drethdalwyr. Felly, pan fydd y Torïaid yn ymosod ar undebau llafur, nid ydynt yn ymosod ar farwniaid yr undebau, maent yn ymosod ar bobl gyffredin sy'n gweithio ac sydd ddim yn gwneud dim mwy na dod at ei gilydd mewn achos cyffredin.
Wrth gwrs, mae undebau llafur hefyd ymysg y cyrff mwyaf democrataidd yn y wlad. Dewch inni edrych ar sut y maent yn ethol eu harweinwyr. Mae ysgrifenyddion cyffredinol undebau llafur yn cael eu hethol am gyfnodau penodol gan bleidleisiau un aelod un bleidlais ymhlith eu haelodaeth gyfan. Ac ar y materion sy’n ganolog i'r gwelliant hwn, mae pleidleisiau ar weithredu diwydiannol yn cynnwys pob aelod o'r undeb yr effeithir arno.
Ymhlith rhengoedd anwybodus y Torïaid, wrth gwrs, mae myth yn parhau bod undebau llafur yn mynd ati i berswadio eu haelodau i fynd ar streic. Ond ffantasi llwyr yw awgrymu bod undebau llafur yn croesawu galw streic. Gallaf ddweud wrthych yn bendant, o fy holl flynyddoedd, a hynny fel ymgyrchydd lleyg ac fel swyddog undeb llafur llawn-amser, y byddwn i a chyd-aelodau o undebau llafur yn ystyried mai methiant fyddai troi at alw pleidlais ffurfiol am weithredu diwydiannol ar unrhyw adeg—methiant oherwydd na fyddai’r holl waith a wnaethom, ddydd ar ôl dydd, i weithio gyda chyflogwyr i ddatrys anawsterau, fel yr amlinellwyd yn gynharach, wedi gweithio. Gweithredu diwydiannol bob amser, bob amser yw’r dewis olaf.
Dewch inni yna sôn am y pleidleisiau eu hunain. Os caiff y gwelliant hwn ei basio, byddai'n sefydlu cyfundrefn o drothwyon pleidleisio nad ydynt yn berthnasol mewn unrhyw sefyllfa ddemocrataidd arall yr wyf yn ymwybodol ohoni yn unman yn y DU y tu allan i Ddeddf Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan. Ac rwy’n herio cynigydd y gwelliant hwn i enwi un.
Yn sicr nid oedd yn berthnasol i’r—
A ydych yn ildio?
Mae'n ddrwg gen i; mae'n ddrwg gen i.
Ydych chi'n ei chael yn eironig bod rhywun a gafodd 34.7 y cant o'r bleidlais mewn etholiad eisiau gweld trothwy pleidlais o 40 y cant?
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi, a dyna’r union bwynt yr oeddwn yn dod ato, Mike. Diolch yn fawr iawn.
Nid oedd y trothwyon pleidleisio, fel y gwyddom, yn sicr yn berthnasol yn refferendwm yr UE, sef heb os yr un mater pwysicaf yr ydym wedi pleidleisio arno yn y wlad hon yn ystod ein hoes. A pha bynnag mor agos oedd canlyniad y refferendwm hwnnw, a beth bynnag oedd y nifer a bleidleisiodd, gwnaethom i gyd gytuno bod rhaid inni ochri â’r mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd. Wnaethon ni ddim dweud y dylai'r canlyniad gael ei wneud yn annilys drwy osod rhyw drothwy mympwyol a di-sail, ond dyna y mae Deddf undeb llafur Torïaid y DU yn ei wneud i weithwyr sy’n cynnal pleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol. A dyna beth sy'n cael ei gynnig yn y gwelliant hwn.
Fel y dywedais pan fuom yn trafod y mater hwn o'r blaen, gallem fynd â’r safonau dwbl hynny gam ymhellach ac arsylwi na fyddai un Aelod Ceidwadol wedi cael ei ethol i'r Siambr hon pe byddai’r un trothwy yn Neddf y DU a gynigir yn y gwelliant hwn wedi bod yn berthnasol i’w hetholiad. A byddai, byddai'r un peth wedi bod yn wir am yr holl Aelodau eraill, yn ogystal â’r cynghorwyr a etholwyd yn ôl ym mis Mai. Cyn etholiad cyffredinol mis Mehefin, dim ond 25 o Aelodau Seneddol Torïaidd a fyddai wedi cyrraedd San Steffan yn unol â’r trothwy hwnnw. Nawr, rwy’n cyfaddef nad wyf wedi archwilio’r dadansoddiad hwnnw o'r etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, ond rwy'n barod i fentro na fydd wedi gwella llawer ers hynny. Mae'r rhagrith yn y gwelliant hwn, felly, yn eithaf syfrdanol.
Dywedais yn gynharach y byddai'r rhan fwyaf o drefnwyr yr undebau llafur yn ei ystyried yn fethiant pe byddai'n rhaid iddynt droi at bleidlais ar weithredu diwydiannol, ond gadewch inni fynd ymlaen i archwilio'r hyn sy'n digwydd gyda phleidleisiau o'r fath os aiff undeb llafur i lawr y llwybr hwnnw. Mae gan bob undeb weithdrefnau cadarn ar gyfer cymeradwyo unrhyw gamau sy'n codi o bleidlais ar weithredu diwydiannol. Mae’n rhaid iddynt gynhyrchu toreth o wybodaeth i'r cyflogwr am bob aelod a gaiff bleidlais, ac unwaith y maent yn cael y canlyniad, mae angen dadansoddiad manwl o nifer yr aelodau a bleidleisiodd, ynghyd â’r mwyafrif o blaid neu yn erbyn. Mae pob aelod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y bleidlais. Mae ganddynt hawl ddemocrataidd i ddewis bod yn rhan o'r pleidleisio neu beidio, yn ôl eu dymuniad. Un ffactor sydd bob amser yn effeithio ar y nifer sy’n pleidleisio yw mai un o'r anawsterau yw’r cyfyngiadau hen ffasiwn ar y dulliau a bennwyd gan Lywodraethau Torïaidd blaenorol o ran sut y gall undebau llafur ganfod barn eu haelodau. Ond ni fyddai unrhyw undeb llafur byth yn cychwyn ar raglen o weithredu diwydiannol heb yr hyder y gallant ei chyflawni. Yr hyn sy’n digwydd fel arfer mewn gwirionedd o dan amgylchiadau o'r fath yw bod pleidlais 'ie' ar gyfer gweithredu diwydiannol yn canolbwyntio meddyliau pob ochr mewn unrhyw anghydfod ar ganlyniad y cytunir arno, a dyna, wrth gwrs, ddylai fod nod unrhyw drafodaethau. Yr oll y byddai trothwy mympwyol a allai fod yn anghyraeddadwy’n ei wneud yw lleihau'r cymhelliad i un o'r partïon i negodi cytundeb; byddai unrhyw un sydd â hyd yn oed dealltwriaeth sylfaenol yn gweld y byddai hynny’n wrthgynhyrchiol i gysylltiadau diwydiannol iach ac adeiladol.
Wrth gwrs, rwyf wedi bod yn undebwr llafur ymroddedig drwy gydol fy oes, felly efallai y byddai pobl yn dweud, ‘Wel, byddai Dawn Bowden yn dweud hynny, oni fyddai?’ Wel, iawn, Llywydd, does dim angen i Aelodau gymryd fy ngair i am hynny. Penderfynodd pwyllgor polisi rheoleiddio Llywodraeth y DU nad oedd y cynlluniau hyn yn addas i'r pwrpas. Galwodd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu gynigion Llywodraeth y DU o dan ei Deddf undebau llafur yn ‘ymateb hen-ffasiwn’. Aeth ymlaen i ddod i'r casgliad y byddai’n well i Lywodraethau a chyflogwyr adeiladu gwell deialog â'u gweithluoedd yn hytrach na bod deddfwriaeth lem yn pennu trothwyon pleidleisio. Meddai Peter Cheese, prif weithredwr y CIPD
‘Mae'n amser dechrau sôn am atal yn hytrach na gwella o ran gweithredu streic a heriau gweithlu'r sector cyhoeddus yn benodol. Yr hyn sydd orau i fuddiannau trethdalwyr yw gweithlu effeithlon, brwdfrydig a chynhyrchiol yn y sector cyhoeddus.’
Mae angen inni weld mwy o ymgynghori a deialog ac ymgysylltu parhaus â'r gweithlu, yn hytrach na chyflwyno mecanweithiau sy'n adlewyrchu heriau cysylltiadau diwydiannol yr 1980au. Mae neidio’n syth at ddeddfwriaeth a gweithgarwch streic, heb ystyried hyn, yn edrych fel cam mawr yn ôl. Wrth gwrs, rydym eisoes yn cydnabod, yma yng Nghymru, ein bod wedi osgoi anghydfodau—er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders—rydym wedi osgoi anghydfodau yn y sector cyhoeddus yma drwy waith partneriaeth gymdeithasol mewn cyrff fel y cyngor adnewyddu'r economi, y cyngor partneriaeth gweithlu, ac Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru. Pam, felly, mae’r Torïaid yn methu ag amgyffred yr hyn a all pawb arall: bod angen fframwaith partneriaeth adeiladol a chyfartal er mwyn cynnal cysylltiadau diwydiannol yn ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig? A ydynt wedi’u dallu gymaint gan ragfarn gwrth-undebau llafur fel nad ydynt yn fodlon gwrando ar yr hyn y mae’r holl weithwyr proffesiynol cysylltiadau diwydiannol yn ei ddweud wrthynt? Wel, Llywydd, rwy’n gwybod lle’r wyf fi’n sefyll ar y mater hwn, a byddaf i’n pleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, wrth gyflwyno’r grŵp hwn o welliannau, clywsom lais go iawn Plaid Geidwadol Cymru. Ar y naill law: mae angen dal undebau llafur i lawr a’u clymu mewn rheolau cymhleth a throthwyon uchel i wneud yn siŵr nad ydynt yn achosi anhrefn ym mywydau trethdalwyr sy'n gweithio'n galed. Dyna’r union fath o wahaniaethu—gosod un grŵp yn erbyn y llall—yr ydym yn benderfynol i’w wrthsefyll yn y Bil hwn. Yma yng Nghymru, rydym wedi datblygu model partneriaeth gymdeithasol lle’r ydym yn cydnabod bod buddiannau undebwyr llafur yn union yr un fath â buddiannau'r bobl hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus. Dyna pam yr ydym yn gwrthod y math hwn o welliant.
Dywedodd Mike Hedges ei bod yn eironig bod rhywun sydd ei hun wedi cyrraedd y lle hwn ar bleidlais a fyddai’n bendant wedi methu â bodloni’r testun a nodir yn y gwelliant hwn—roedd yn eironig bod hyn wedi’i gyflwyno yn y ffordd honno. Rwy'n meddwl ei fod ychydig yn waeth na hynny, Mike. Rwy'n meddwl mai annymunol iawn yw clywed pobl yn gwneud apêl i ddemocratiaeth ac yn sefydlu safonau y byddai’n gwbl amhosibl iddyn nhw eu hunain eu bodloni. Mae hynny'n wir am lawer o bobl yn yr ystafell hon; mae’n gwbl sicr. Pe byddai’r rheolau a nodir yn y gwelliant hwn yn berthnasol i chi, fyddech chi ddim yn Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, ble mae’r ddemocratiaeth yn hynny, tybed? Dyna pam mae angen inni wrthod y grŵp hwn o welliannau. Mae angen inni ei wrthod hefyd oherwydd casgliad y pwyllgor: sef, a dweud y gwir, pan fyddwch yn cyflwyno ysbryd o wrthdaro i mewn i gysylltiadau diwydiannol, pan fyddwch yn troi un ochr yn erbyn y llall, beth yr ydych yn ei wneud yw gwneud y risg y bydd pethau’n arwain at weithredu diwydiannol yn hytrach na chael eu datrys o gwmpas y bwrdd—rydych yn gwneud y risg hwnnw’n fwy, nid yn llai. Dyma beth a ddywedodd y pwyllgor:
‘Clywsom am y perygl gwirioneddol y byddai’r trothwy ychwanegol yn arwain at fwy o densiwn diwydiannol ac yn cael yr effaith anfwriadol o gynyddu tebygolrwydd a hyd y gweithredu diwydiannol.’
Dyna beth fyddai’r gwelliannau hyn yn ei wneud. Yn hytrach nag amddiffyn y cyhoedd, byddent yn cynyddu'r risg y byddem yn methu â chynnal cysylltiadau diwydiannol yn y modd llwyddiannus yr ydym wedi ei gyflawni yma yng Nghymru. Fel y grwpiau eraill hyd yn hyn, mae’r gwelliannau hyn yn haeddu cael eu trechu.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i’r ddadl.
Diolch. Hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: os yw eich partneriaeth gymdeithasol wedi bod mor llwyddiannus, pam mae gan Gymru’r lefelau cyflog, cyflogaeth a ffyniant isaf ym Mhrydain gyfan? Yn eu briff ar gyfer Bil gwreiddiol Llywodraeth y DU, canfu llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, yn 2015, fod gan Gymru’r pedwerydd swm uchaf o ddyddiau gwaith a gollwyd o blith rhanbarthau’r DU—chwech i bob 1,000 o weithwyr. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae amcangyfrifon o'r adran ar gyfer busnes, egni, arloesi a sgiliau’n dangos y bydd darpariaethau presennol Deddf Llywodraeth y DU yn arbed dros 1.5 miliwn o oriau gwaith y flwyddyn, gan roi hwb o £100 miliwn i economi'r DU. Mae’n benbleth imi na fyddech am weld y llwyddiant hwnnw.
Mae'r CBI hefyd wedi nodi nad yw cyflwyno trothwyon pleidlais streic yn mynd yn groes i ddim o gonfensiynau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol a gymeradwywyd gan y DU, nac yn tanseilio dim o hawliau’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn fater o sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed yn ddemocrataidd mewn anghydfodau diwydiannol. Yn rhy aml, rydym yn gweld streiciau’n digwydd ar ôl nifer isel iawn o bleidleisiau, neu gyda chefnogaeth cyfran fechan o'r gweithlu. Yn 2014 caewyd miloedd o ysgolion ar ôl pleidlais lle pleidleisiodd 27 y cant o’r aelodau cymwys. O ran etholiadau gwleidyddol, mae pleidleisio i gymryd rhan mewn streic a phleidleisio mewn etholiad cyffredinol neu etholiad y Cynulliad yn gwbl wahanol. Gall pawb bleidleisio dros eu AS neu AC, ond mae streiciau’n effeithio ar bawb, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r aelodau hynny o'r cyhoedd y bydd streiciau’n effeithio arnynt yn cael unrhyw gyfle na llais i bleidleisio ynghylch pa un a ddylai'r streic ddigwydd. Nid yw ond yn deg y dylai streiciau ddigwydd dim ond pan geir canran sylweddol yn pleidleisio.
Nawr, yn ddiddorol ddigon, roedd y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad disymwth eleni yn 68.7 y cant, sy’n llawer uwch na'r trothwy yr ydym yn ei awgrymu yma. Llywydd, nid wyf yn disgwyl gweld cefnogaeth ar draws y Siambr, o ystyried y swm eithriadol o arian a ddarperir i rai pleidiau gan undebau llafur. Fodd bynnag, byddwn yn gobeithio gweld Aelodau’n codi uwchben eu buddiannau eu hunain a materion o'r fath i bleidleisio o blaid streicio teg a democrataidd, rhywbeth y credwn ei fod er budd pawb dan sylw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad]. Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4—Janet Finch-Saunders.
Rwy'n tynnu'n ôl. [Torri ar draws.]
Gwelliant 5.
Rwy'n tynnu'n ôl. [Torri ar draws.]
Iawn, iawn, ymdawelwch.