Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:57 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Gair cyffredinol cyn manylu ar grŵp 4: mae Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma a gyflwynwyd gan Lafur, ond rydym yn dymuno nodi na wnaeth Llywodraethau Blair na Brown gymryd y cyfle i ddileu nifer o fesurau Thatcher—mesurau sy’n parhau i danseilio hawliau gweithwyr hyd heddiw. Mae’n bwysig cofio hynna rwy’n meddwl.
I symud at grŵp 4, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau yma sydd wedi cael eu cyflwyno yn enw Janet Finch-Saunders. Roeddwn yn falch o gefnogi gwelliant gan y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 y Bil yma a oedd yn sicrhau y byddai gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Yn aml, bydd gweithwyr asiantaeth ddim yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn gweithleoedd, sydd felly yn codi pryderon ynghylch diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd. Mi all defnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle gweithwyr ar streic niweidio’r berthynas rhwng y streicwyr a’r cyflogwyr, a rhwng y streicwyr a’r gweithwyr asiantaeth hefyd.
Mae cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi denu beirniadaeth gref o fewn y sector asiantaethau ei hun, fel y clywsom ni gan Dawn Bowden, efo pennaeth polisi y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth yn amheus iawn o osod gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro yng nghanol sefyllfaoedd diwydiannol anodd, ac yn cynghori, yn wir, nad oedd hynny’n fanteisiol i aelodau’r gynghrair ei hun. Un ddadl yn unig ydy honno dros wrthod y gwelliannau yma.