Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Byddwn wrth fy modd, Huw, oherwydd, yn Ogwr, mae 36.5 y cant o’r disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi cyrraedd trothwy cynwysedig lefel 2 yng nghyfnod allweddol 4, ac mae hynny’n gynnydd o 12 y cant ers cyflwyno’r grantiau datblygu disgyblion. Cyflawnodd tri chwarter y dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim y dangosydd pynciau craidd ar gyfer cyfnod allweddol 2, ac mae hynny’n uwch na’r 62 y cant yn 2012, sef cynnydd o 14 pwynt canran. Dylid llongyfarch yr athrawon a’r myfyrwyr hynny.