Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n newyddion da gweld bod y grant datblygu disgyblion yn cael effaith ar wella cyfleoedd addysg ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae addysg y plant a’r bobl ifanc yn Ogwr ar fin cael ei dinistrio wrth i’r toriadau i’r gyllideb ddod i’r amlwg. Gallai ysgolion cyfun awdurdod addysg lleol Pen-y-bont ar Ogwr golli hyd at bum swydd athro o ganlyniad i ddiffygion Pen-y-bont ar Ogwr, sydd dros £300 y disgybl yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd hyn yn effeithio ar y grant datblygu disgyblion?