Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, roedd Prif Weinidog Llafur Cymru yn dweud wrth bobl am bleidleisio dros y Blaid Lafur er mwyn cael gwared ar ffioedd dysgu, ond ddoe, gan fradychu’r myfyrwyr a phleidleiswyr Llafur ledled Cymru, fe gyhoeddoch, ar ran ei Lywodraeth ef, gynnydd yn y cap ar ffioedd dysgu a delir gan fyfyrwyr yng Nghymru. A chredaf fod hynny’n dangos na ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni’r addewidion y mae wedi’u gwneud i bobl Cymru. Y llynedd, yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwnaethoch addewid i dorri maint dosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar i 25 neu lai. A allwch ddweud wrth y Cynulliad heddiw pa gynnydd rydych yn ei wneud ar yr addewid hwnnw?