Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Gadewch i mi eich atgoffa o addewid arall a wnaethoch i ddisgyblion a rhieni ledled Cymru: fe ddywedoch y byddech yn codi safonau fel Gweinidog addysg, ac eto, dros y penwythnos, fe’ch gwelsom yn bychanu’r disgwyliadau ar gyfer canlyniadau TGAU yr haf hwn. Nid yw’r ffaith ein bod yn diwygio TGAU yn golygu o reidrwydd ein bod yn anelu am ganlyniadau gwaeth. Felly, a fydd yr addewid y byddwch yn gwella safonau yn addewid arall na fyddwch yn gallu ei gyflawni ar gyfer disgyblion a rhieni, ac a allwch ddweud wrthym pam ar y ddaear nad oes gennych fwy o ffydd yn y disgyblion a’r athrawon ledled Cymru a disgwyl iddynt wneud yn dda?