Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2012, fe ddywedoch fod lles disgyblion, athrawon, a staff yn ein hysgolion yn hollbwysig, a hefyd, wrth sôn am ganfod asbestos, y byddai’r Llywodraeth yn ceisio trosglwyddo cyfrifoldeb ymlaen i awdurdodau lleol ac ysgolion. A ydych yn dal o’r farn, fel roeddech pan oeddech yn un o’r gwrthbleidiau, y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb pan fo awdurdod lleol naill ai’n methu neu’n peidio â rhoi hyder i’n hathrawon a’n myfyrwyr eu bod yn addysgu ac yn dysgu mewn amgylchedd diogel?