Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, pan ddaethoch yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac unwaith eto heddiw, roeddech yn llygad eich lle i ddweud y dylid cael rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a bod y disgyblion mewn ysgolion gwledig yn haeddu’r un cyfleoedd â phlant mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Pa gamau, os o gwbl, y byddech yn eu cymryd pe baech yn amau bod awdurdod lleol yn gadael i ysgol wledig bydru er mwyn cryfhau’r achos dros ei chau?