Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Os nad yw awdurdod lleol yn cynnal ysgol wledig yn iawn, a fyddech yn ystyried o gwbl ei bod yn briodol cael gwared ar yr ysgol honno a chyfran berthnasol o’r grant cynnal refeniw gan yr awdurdod lleol a’i hariannu’n uniongyrchol fel ysgol ddirprwyedig?