<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:51, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, nid rhoi pwysau ar y myfyrwyr yw’r ateb, nage? Ac mae ceisio awgrymu bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cefnogi’r cynnydd yn y ffi a gyhoeddwyd ddoe yn gwbl anghywir. Oes, mae yna newid yn y ffordd rydych yn cefnogi myfyrwyr—nid oes unrhyw un yn amau hynny. Ond nid yw cynyddu’r ddyled sy’n wynebu myfyrwyr yng Nghymru—ac nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, gyda llaw—yn ateb derbyniol yn fy marn i. Nawr, roeddwn o dan yr argraff fod y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur, o ran—mai eu hegwyddor oedd ceisio dynesu at addysg rad ac am ddim. Mae eich penderfyniad chi wedi golygu ein bod ymhellach i ffwrdd oddi wrth hynny nag erioed o’r blaen. Felly, a allwch gadarnhau bod yr egwyddor wreiddiol a fu unwaith mor bwysig i chi ac eraill ar fainc y Llywodraeth yno o hyd?