<p>Addysg Cerddoriaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:02, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Crybwyllodd Rhianon Passmore y gronfa waddol genedlaethol, wrth gwrs, ac yn ôl ym mis Chwefror pan gyhoeddoch hyn, wrth ateb fy nghwestiwn ynglŷn ag a fyddai’r gronfa’n arwain at ddargyfeirio’r gefnogaeth oddi wrth wasanaethau cerddoriaeth craidd ac i’r gronfa newydd hon, fe ateboch eich bod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai hynny olygu dargyfeirio ac y byddai’n rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny wrth inni symud ymlaen. Rwy’n sylweddoli ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar ar y gronfa, ond a allwch ddweud wrthym am ddatblygiad y meini prawf ar gyfer cael mynediad at y gronfa honno, ac a yw’r perygl y gallai ei achosi i wasanaethau cerddoriaeth craidd wedi cael ei ddatrys?