<p>Addysg Cerddoriaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:03, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am ofyn yn benodol am eich sgyrsiau gyda’r sefydliad newydd, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn yn siarad â thiwtoriaid yn ysgol Gartholwg, pan aethom fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor ar gerddoriaeth, gyda Dawn Bowden, a dywedodd un o’r tiwtoriaid wrthyf, ‘Mae fy merch yn gwneud cais am y gerddorfa Ewropeaidd gan y gall fforddio gwneud hynny yn haws nag y gall fforddio’r ffioedd ar gyfer cerddorfa Cymru.’ Os yw ein pobl ifanc yn cael eu prisio allan o allu gwneud cais i’w cerddorfa genedlaethol eu hunain, beth y mae hyn yn ei ddweud wrth ddarpar offerynwyr Cymru pan fyddant am anelu at frig y pyramid, sef Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru? Os na allant anelu at hynny oherwydd y ffioedd, sut y mae disgwyl iddynt gymryd rhan yn y broses? Felly, gyda’r corff newydd hwn bellach ar waith, tybed pa sgyrsiau y gallwch eu cael mewn perthynas ag ehangu’r cynlluniau bwrsariaeth fel y gall pawb fod yn rhan o’r fenter gyffrous hon.