<p>Ysgolion Bro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:06, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig iawn o amser y mae plant yn ei dreulio yn yr ysgol o gymharu â thu allan i’r ysgol, felly mae’n amlwg yn bwysig iawn, iawn fod y cartref, ac yn wir, y gymuned lle maent yn byw yn cyfrannu at eu haddysg ac yn ei hybu. Mae ysgolion bro yn ffordd wych o adeiladu’r bartneriaeth honno rhwng yr ysgol, y teulu a’r gymuned ehangach. Yn anffodus, mae’r cyfleusterau, yn rhy aml, ar gau gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol, ac nid yw hynny’n ddefnydd da o adnoddau mewn cyfnod o gryn bwysau ar gyllid cyhoeddus. Felly, am sawl rheswm, gan gynnwys y rheiny, byddai’n wych pe bai gennym fwy o gysondeb yng Nghymru. Ar hyn o bryd, credaf fod pethau’n eithaf anghyson. Felly, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod a ydych yn ystyried datblygu mecanwaith, ffordd y gallem gael ysgolion gyda ffocws cymunedol cyson ym mhob cwr o Gymru.