Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe cyfeiriais at yr adroddiad ‘Tueddiadau Iaith Cymru’ diweddaraf a oedd yn dangos bod athrawon yn poeni’n fawr am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Dywedodd yr adroddiad fod Dyfodol Byd-Eang yn boblogaidd gydag athrawon, ond nad yw ond yn cael effaith gyfyngedig ar y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru hyd yn hyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pryd y mae’n bwriadu adolygu cynnydd Dyfodol Byd-Eang er mwyn sicrhau bod y dirywiad difrifol mewn dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru yn cael ei wrthdroi? Diolch.