<p>Cynllun Dyfodol Byd-eang</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:16, 12 Gorffennaf 2017

Mi gafodd yr adroddiad ar dueddiadau iaith ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, a, gyda llaw, rydw i’n gwahodd pawb i gyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cysylltu â’r ‘diaspora’ Cymreig a gwrando ar beth sydd gan GlobalWelsh a Cymry a’r Byd i’w ddweud bryd hynny. Ond un pryder penodol a gafodd ei godi oedd bod y fagloriaeth Gymreig yn arfer cynnwys ieithoedd tramor modern, ond bod yr elfen yna wedi cael ei dileu erbyn hyn. A oes modd edrych ar hynny eto, gan fod hyn o bosib wedi dileu’r ffordd i rai tuag at ddysgu iaith fodern?