Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, y rhan orau o 100 mlynedd yn ôl, y polisi oedd bod pawb yn dysgu o leiaf un iaith dramor hyd at 16 oed. Mae pethau’n wahanol iawn erbyn hyn, ac rwy’n falch o glywed y ffigurau a gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet funud yn ôl a’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddysgu ieithoedd tramor modern. Ond un o’r problemau mawr sydd gennym wrth berswadio plant ysgol i ddewis astudio ieithoedd tramor modern yw’r canfyddiad eu bod yn anodd, ac mae’n wir fod dysgu iaith o’r dechrau yn anodd ac yn gofyn am ddisgyblaeth feddyliol. Dyna, wrth gwrs, yw un o’r rhesymau mawr pwysig dros ddysgu iaith dramor fodern, ac mae hefyd yn ehangu’r meddwl. Ac wedi dysgu Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg, yn ogystal â Lladin, yn yr ysgol fy hun—dyna a’m gwnaeth y dinesydd byd-eang cosmopolitaidd ag wyf fi heddiw. [Torri ar draws.]