Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod hanes cyfranogiad a chefnogaeth yr Arglwydd Kerr i’r Undeb Ewropeaidd bron mor hir ag un Eluned Morgan, ac efallai y gallai ei farn ar ddirymadwyedd erthygl 50 neu fel arall gael ei gweld yn y golau hwnnw? Roeddwn yn siomedig fod y Cwnsler Cyffredinol wedi mynd rywfaint pellach yn ei ail ymateb nag yn ei ymateb cyntaf, oherwydd onid yw’n wir fod ystyriaeth o’r fath ynglŷn â diddymu erthygl 50 yn ei hanfod yn erbyn y lles cenedlaethol am ei fod yn tanseilio strategaeth negodi Llywodraeth y DU, mae’n rhoi awgrym i’r Undeb Ewropeaidd ei bod yn bosibl y gallem ni neu’r Blaid Lafur, pe baent yn dymuno, geisio dirymu penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm, ac mae’n ei gwneud yn llai tebygol y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cytundeb da i ni sydd er lles Cymru a’r Deyrnas Unedig?