2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2017.
2. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r posibilrwydd o ddirymu erthygl 50? OAQ(5)0046(CG)
Nid wyf mewn sefyllfa, wrth gwrs, i siarad am unrhyw asesiad y gallwn fod wedi’i wneud neu heb ei wneud mewn perthynas â’r mater hwn. Bydd yr Aelodau’n gyfarwydd â’r confensiwn sefydledig na ddylid datgelu bodolaeth na chynnwys cyngor swyddogion y gyfraith.
Diolch. Mewn cynhadledd yn ddiweddar, awgrymodd yr Arglwydd Kerr, awdur erthygl 50 ac Ysgrifennydd Parhaol blaenorol y Swyddfa Dramor, fod erthygl 50 yn ddirymadwy yn wir, a bod llawer o arweinwyr gwleidyddol wedi ein hannog i newid ein meddyliau, gan gynnwys Macron, Schäuble a Rutte. Hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i’r UE eich bod yn bwriadu gadael, awgrymodd nad oes dim i ddweud bod yn rhaid inni adael, ond dywedodd y gallai fod pris gwleidyddol i’w dalu am hynny. Nawr, ni waeth am y cymhlethdodau a’r materion sy’n ymwneud â chywirdeb neu anghywirdeb y posibilrwydd o ddirymu erthygl 50, a allai’r Cwnsler Cyffredinol roi ei asesiad cyfreithiol i ni ynglŷn ag a yw dehongliad yr Arglwydd Kerr yn gywir?
Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn achos Miller—yr achos erthygl 50—yn glir iawn: nad oedd yn ddirymadwy. Wrth gwrs, y corff a fyddai’n penderfynu cyfreithlondeb hynny yn y pen draw fyddai Llys Cyfiawnder Ewrop, ond fel mater o egwyddor gyffredinol a chytundeb mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, gall unrhyw gytundeb sydd â chydsyniad pob aelod o’r Undeb Ewropeaidd gyflawni bron unrhyw safbwynt a ddymunir.
A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod hanes cyfranogiad a chefnogaeth yr Arglwydd Kerr i’r Undeb Ewropeaidd bron mor hir ag un Eluned Morgan, ac efallai y gallai ei farn ar ddirymadwyedd erthygl 50 neu fel arall gael ei gweld yn y golau hwnnw? Roeddwn yn siomedig fod y Cwnsler Cyffredinol wedi mynd rywfaint pellach yn ei ail ymateb nag yn ei ymateb cyntaf, oherwydd onid yw’n wir fod ystyriaeth o’r fath ynglŷn â diddymu erthygl 50 yn ei hanfod yn erbyn y lles cenedlaethol am ei fod yn tanseilio strategaeth negodi Llywodraeth y DU, mae’n rhoi awgrym i’r Undeb Ewropeaidd ei bod yn bosibl y gallem ni neu’r Blaid Lafur, pe baent yn dymuno, geisio dirymu penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm, ac mae’n ei gwneud yn llai tebygol y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cytundeb da i ni sydd er lles Cymru a’r Deyrnas Unedig?
Wel, mae’n ymddangos i mi fod gallu Llywodraeth y DU i gyflwyno unrhyw safbwynt cyson o ran eu trafodaethau gyda’r UE ar hyn o bryd yn hynod o amheus. Y mater y gofynnir i mi yn ei gylch yn y cwestiwn yw: beth yw statws yr hysbysiad erthygl 50 sydd wedi cael ei roi?.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi mynegi ei barn ei hun ar y datganiadau a wnaeth yn y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny. Ond wrth gwrs, ni aethpwyd ar drywydd y mater ymhellach ac yn y pen draw, Llys Cyfiawnder Ewrop, y mae Llywodraeth y DU yn awyddus i dorri pob cysylltiad ag ef, a fyddai’n penderfynu ar y dehongliad cyfreithiol o hynny yn y pen draw. Ond mewn gwirionedd, mae llawer o benderfyniadau mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar gydsyniad yr holl aelod-wladwriaethau unigol. Dyna sut y mae deddfau’n cael eu creu yn y pen draw. Byddai angen i’r holl aelod-wladwriaethau unigol yn y pen draw drafod a chytuno ar unrhyw gynigion a fyddai’n cael eu gwneud.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn unol â phenderfyniad pobl Prydain yn y refferendwm y llynedd. Felly, onid yw’r cwestiwn hwn yn debyg i’r cwestiynau canoloesol hynny, a oedd yn gofyn faint o angylion a allai ddawnsio ar ben pin?
Wel, nid wyf yn gwybod a oedd hwnnw’n gwestiwn a oedd eisiau cael ei ateb ai peidio mewn gwirionedd. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt; mae wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn dros gyfnod o amser. Yr hyn rwyf wedi’i wneud, rwy’n credu, yw gosod y ffeithiau o ran beth yw’r sefyllfa gydag erthygl 50 ac o ran y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU.