Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Wel, nid wyf yn gwybod a oedd hwnnw’n gwestiwn a oedd eisiau cael ei ateb ai peidio mewn gwirionedd. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt; mae wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn dros gyfnod o amser. Yr hyn rwyf wedi’i wneud, rwy’n credu, yw gosod y ffeithiau o ran beth yw’r sefyllfa gydag erthygl 50 ac o ran y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU.