Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Byddaf, yn sicr. Rwy’n ymrwymo i sicrhau bod swyddogion yn parhau i weithio gyda’r cwmni, gyda’r banc a chyda Grant Thornton i wneud popeth a allwn i achub y cwmni a hefyd y swyddi sy’n cael eu gwneud gan bobl fedrus iawn—tua 50 o bobl—a gyflogir ar y safle. Dylwn ddweud hefyd fod y gefnogaeth y gallasom ei rhoi drwy Cyllid Cymru yn dod o’u cronfa achub ac ailstrwythuro, a oedd yn golygu yn y bôn na allem ychwanegu cyllid ychwanegol ar ben hynny oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r cwmni i geisio sicrhau dyfodol iddo ac i’r 50 a mwy o weithwyr sydd wedi’u lleoli ar y safle.