<p>Coilcolor yng Nghasnewydd</p>

Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:14, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n peri pryder mawr fod cwmni ag enw da sy’n cyflenwi cwmnïau rhyngwladol wedi bod â phethau llym iawn i’w dweud am Lywodraeth Cymru. Hoffwn yn fawr glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pham ei fod yn credu bod gan y cwmni bethau difrifol iawn i’w dweud ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r sefyllfa hon. Yn amlwg, byddai 50 o deuluoedd yn cael eu siomi’n aruthrol pe bai’r cwmni’n dirwyn i ben. Rydym yn deall bod cynnydd wedi bod mewn ymholiadau gan gwmnïau mewn perthynas â chael eu cyflenwi gan Coilcolor, er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt y gallu i brynu stoc ar hyn o bryd. Ar y pwynt ynglŷn â’r taliadau heb ragfarn, a all egluro unwaith eto na wnaed unrhyw gynnig o’r fath? Ac a all daflu rywfaint o oleuni, efallai, ar ba gynnig a wnaed ac o ble y gallai’r gamddealltwriaeth fod wedi codi? Deallaf fod y llifogydd wedi dod o dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, gerllaw’r cwmni. A yw’n credu bod rhywfaint mwy o ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd felly, yn hytrach na dim ond eu cyfeirio at Cyllid Cymru?

O ran y pwynt ehangach, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl am enw da Cymru fel gwlad sy’n gyfeillgar i fusnesau, beth y mae’n ei ddweud os mai’r gorau y gallwn ei gynnig i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yw benthyciad Cyllid Cymru gyda chyfradd llog o 11 y cant, pan fo llawer o bobl yn meddwl tybed sut y mae cwmnïau rhyngwladol mawr i’w gweld yn cael bargen well?