5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:24, 12 Gorffennaf 2017

Mae’n briodol iawn inni gael y ddadl yma, wrth gwrs, yn dilyn y datganiad y mae Simon Thomas newydd ei wneud. Mae’n wir beth mae’n ei ddweud, wrth gwrs: adroddiad comisiwn Hughes-Parry, rydw i’n meddwl, oedd yn sail, wrth gwrs, i’r Ddeddf honno, a’r comisiwn yna, mewn ffordd, oedd comisiwn Wolfenden yr iaith Gymraeg. Ac nid oedd y Ddeddf, wrth gwrs, wedi gwireddu’r nod uchel oedd wedi cael ei osod gan y comisiwn hwnnw o ran sicrhau cyfartalrwydd i’r iaith Gymraeg, ond, wrth gwrs, mi osodwyd y seilwaith o ran yr hyn a gyflawnwyd yn y Deddfau a ddaeth wedyn.

Mae’n bleser gen i heddiw, felly, ar ran y Comisiwn, gyflwyno’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pumed Cynulliad a’r adroddiad cydymffurfio ar gyfer misoedd olaf y pedwerydd Cynulliad a blwyddyn gyntaf y pumed.

Cyfeiriaf yn gyntaf, felly, at yr adroddiad cydymffurfio sy’n adrodd ar ein gwaith, yn crisialu’r cynnydd dros y cyfnod dan sylw, ac yn dod â chynllun ieithoedd swyddogol y pedwerydd Cynulliad i ben. Gwnaethpwyd llawer o waith dros y cyfnod hwn yn paratoi ar gyfer croesawu’r Aelodau Cynulliad newydd ar ôl yr etholiad, wrth gwrs, ac yn sicrhau bod yr arferion da o ran darparu gwasanaethau dwyieithog a sefydlwyd yn y pedwerydd Cynulliad yn parhau. Gosodwyd sylfeini cadarn er mwyn sicrhau bod Comisiwn y Cynulliad yn parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i Aelodau Cynulliad a’u staff a phobl Cymru. Mae’n wir dweud bod Aelodau Cynulliad newydd, rwy’n credu, wedi eu taro—rhai ohonyn nhw—gan ddwyieithrwydd naturiol y sefydliad hwn a’r ymrwymiad cryf gan holl staff y Comisiwn i ddarparu gwasanaethau seneddol rhagorol yn y ddwy iaith.

Wrth gwrs, nid yw’n bosib i unrhyw sefydliad gyrraedd y nod 100 y cant o’r amser, ac mae’r adroddiad hefyd yn sôn am yr adegau hynny pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y nod hwnnw. Wrth baratoi’r adroddiad cydymffurfio, cawsom gyfle i sicrhau ein bod ni’n dysgu oddi wrth yr achosion hynny a rhoi trefniadau ar waith i sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto. Mae adborth gan ein—wel, nid wyf i’n siŵr taw ‘cwsmeriaid’ ydym ni, ond yn sicr, Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth, a phobl Cymru, sydd yn greiddiol, wrth gwrs, i’r hyn ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y cyd-destun yma, yn helpu i ddysgu a gwella.

I droi, felly, at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd, mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno cynllun diwygiedig ar gyfer pob Cynulliad. Wrth baratoi’r cynllun, yn unol â Deddf ieithoedd swyddogol 2012, rydym wedi edrych ar yr arferion gorau o ran gweithio dwyieithog ar draws Cymru ac, a dweud y gwir, y tu hwnt, ac wedi ymgynghori yn eang. Am y tro cyntaf, er enghraifft, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi craffu ar y cynllun drafft. Roedd hyn yn ffordd o gynnig sicrwydd pellach nid yn unig i Aelodau, ond i’r bobl rydym ni’n eu cynrychioli, fod y cynllun yn un cadarn a phwrpasol. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu parodrwydd i ymgymryd â’r gwaith yn y ffordd fanwl a thrwyadl y gwnaethon nhw.

Bydd y rheini ohonoch sydd yn gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pedwerydd Cynulliad yn gweld rhai newidiadau i’r ffordd y mae’r cynllun wedi cael ei strwythuro. Y nod wrth wneud hynny oedd sicrhau bod y cynllun yn parhau yn amserol ac yn berthnasol ar gyfer y pumed Cynulliad ar ei hyd. Mae’r safonau gwasanaeth y gall ein Haelodau a’u staff cymorth, pobl Cymru a staff y Comisiwn eu disgwyl wedi eu hamlinellu yn gyntaf yn y cynllun. Wedi hynny, rydym ni’n pennu pum thema y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw dros dymor y pumed Cynulliad. Bydd y gwaith ar y themâu hyn yn ein harwain i fod yn gorff sydd yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog ac yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dyna’r nod lefel uchel, wrth gwrs, sydd yn ganolog i’r cynllun.

Er mwyn inni wireddu’r uchelgais hon, bydd angen sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn naturiol ac yn ddiofyn. I wneud hyn, bydd angen cymryd camau breision ar adegau gan gynnwys ailystyried y ffordd y byddwn yn pennu gofynion ieithyddol swyddi, a defnyddio dulliau recriwtio amgen ac arloesol pan na fyddwn ni’n llwyddo i ddenu ymgeiswyr gyda’r sgiliau iaith angenrheidiol trwy ddulliau traddodiadol.

Byddwn hefyd yn parhau â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau o ran hyfforddiant sgiliau iaith i Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff y Comisiwn, gan sicrhau wedi hynny ein bod ni’n darparu hyfforddiant hyblyg a phwrpasol i bawb sy’n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg.

Trwy gydol y pumed Cynulliad, byddwn yn canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol fel arf i’n helpu ni i sicrhau bod y sgiliau priodol gan ein staff i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn rhagweithiol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r strategaeth sgiliau dwyieithog, ac edrych ar ffyrdd o gaslgu gwybodaeth gyfoes am sgiliau iaith y sefydliad wrth i ni fynd ymlaen yn ystod y tymor hwn. Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni yn cefnogi Aelodau Cynulliad i ymgymryd â’u rôl fel Aelodau etholedig, ac mae’n dda gweld y brwdfrydedd, a dweud y gwir, ymhlith Aelodau sydd yn dysgu. Nid ydw i’n siŵr a ydw i i fod i ddatgan buddiant fan hyn—wrth gwrs, mae fy mrawd yn un o’r tiwtoriaid iaith. Ond rydw i’n gweld, wrth siarad gydag Aelodau, bod yna frwdfrydedd gwirioneddol, a dweud y gwir, yn cael ei fynegi gan Aelodau Cynulliad, a’r un peth, wrth gwrs, gyda’u staff cymorth a staff y Cynulliad—staff y Comisiwn—o ran eu profiad nhw o ddarpariaeth yr hyfforddiant sydd ar gael.

A’r thema olaf yw datblygu ethos dwyieithog y sefydliad. Fel y soniais i, rŷm ni eisiau cael ein hadnabod fel sefydliad dwyieithog, ble mae’r ddwy iaith i’w clywed yn naturiol. Ac rŷm ni wedi cael adborth arbennig o gadarnhaol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn y cyswllt yma, yn dilyn cynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ar ein hystâd ni fan hyn. Nododd bod ymwelwyr o bob cwr o’r byd wedi mwynhau clywed y Gymraeg yn fyw o’u cwmpas yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Senedd. Fodd bynnag, i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, mae mwy o waith i’w wneud. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o adnabod staff dwyieithog ar yr ystâd, gan adeiladu ar lwyddiant y cortynnau gwddf i ddysgwyr a gyflwynwyd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg i’n cynorthwyo i fod yn arloesol ac yn flaengar yn y maes yma bob amser.

Felly, gyda’r sylwadau cychwynnol hynny, edrychaf ymlaen i glywed sylwadau fy nghyd-Aelodau.