5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017

– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:23, 12 Gorffennaf 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i gymeradwyo’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pumed Cynulliad a nodi’r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2015-2017, ac rydw i’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6365 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a

2. Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:24, 12 Gorffennaf 2017

Mae’n briodol iawn inni gael y ddadl yma, wrth gwrs, yn dilyn y datganiad y mae Simon Thomas newydd ei wneud. Mae’n wir beth mae’n ei ddweud, wrth gwrs: adroddiad comisiwn Hughes-Parry, rydw i’n meddwl, oedd yn sail, wrth gwrs, i’r Ddeddf honno, a’r comisiwn yna, mewn ffordd, oedd comisiwn Wolfenden yr iaith Gymraeg. Ac nid oedd y Ddeddf, wrth gwrs, wedi gwireddu’r nod uchel oedd wedi cael ei osod gan y comisiwn hwnnw o ran sicrhau cyfartalrwydd i’r iaith Gymraeg, ond, wrth gwrs, mi osodwyd y seilwaith o ran yr hyn a gyflawnwyd yn y Deddfau a ddaeth wedyn.

Mae’n bleser gen i heddiw, felly, ar ran y Comisiwn, gyflwyno’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pumed Cynulliad a’r adroddiad cydymffurfio ar gyfer misoedd olaf y pedwerydd Cynulliad a blwyddyn gyntaf y pumed.

Cyfeiriaf yn gyntaf, felly, at yr adroddiad cydymffurfio sy’n adrodd ar ein gwaith, yn crisialu’r cynnydd dros y cyfnod dan sylw, ac yn dod â chynllun ieithoedd swyddogol y pedwerydd Cynulliad i ben. Gwnaethpwyd llawer o waith dros y cyfnod hwn yn paratoi ar gyfer croesawu’r Aelodau Cynulliad newydd ar ôl yr etholiad, wrth gwrs, ac yn sicrhau bod yr arferion da o ran darparu gwasanaethau dwyieithog a sefydlwyd yn y pedwerydd Cynulliad yn parhau. Gosodwyd sylfeini cadarn er mwyn sicrhau bod Comisiwn y Cynulliad yn parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i Aelodau Cynulliad a’u staff a phobl Cymru. Mae’n wir dweud bod Aelodau Cynulliad newydd, rwy’n credu, wedi eu taro—rhai ohonyn nhw—gan ddwyieithrwydd naturiol y sefydliad hwn a’r ymrwymiad cryf gan holl staff y Comisiwn i ddarparu gwasanaethau seneddol rhagorol yn y ddwy iaith.

Wrth gwrs, nid yw’n bosib i unrhyw sefydliad gyrraedd y nod 100 y cant o’r amser, ac mae’r adroddiad hefyd yn sôn am yr adegau hynny pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y nod hwnnw. Wrth baratoi’r adroddiad cydymffurfio, cawsom gyfle i sicrhau ein bod ni’n dysgu oddi wrth yr achosion hynny a rhoi trefniadau ar waith i sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto. Mae adborth gan ein—wel, nid wyf i’n siŵr taw ‘cwsmeriaid’ ydym ni, ond yn sicr, Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth, a phobl Cymru, sydd yn greiddiol, wrth gwrs, i’r hyn ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y cyd-destun yma, yn helpu i ddysgu a gwella.

I droi, felly, at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd, mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno cynllun diwygiedig ar gyfer pob Cynulliad. Wrth baratoi’r cynllun, yn unol â Deddf ieithoedd swyddogol 2012, rydym wedi edrych ar yr arferion gorau o ran gweithio dwyieithog ar draws Cymru ac, a dweud y gwir, y tu hwnt, ac wedi ymgynghori yn eang. Am y tro cyntaf, er enghraifft, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi craffu ar y cynllun drafft. Roedd hyn yn ffordd o gynnig sicrwydd pellach nid yn unig i Aelodau, ond i’r bobl rydym ni’n eu cynrychioli, fod y cynllun yn un cadarn a phwrpasol. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu parodrwydd i ymgymryd â’r gwaith yn y ffordd fanwl a thrwyadl y gwnaethon nhw.

Bydd y rheini ohonoch sydd yn gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pedwerydd Cynulliad yn gweld rhai newidiadau i’r ffordd y mae’r cynllun wedi cael ei strwythuro. Y nod wrth wneud hynny oedd sicrhau bod y cynllun yn parhau yn amserol ac yn berthnasol ar gyfer y pumed Cynulliad ar ei hyd. Mae’r safonau gwasanaeth y gall ein Haelodau a’u staff cymorth, pobl Cymru a staff y Comisiwn eu disgwyl wedi eu hamlinellu yn gyntaf yn y cynllun. Wedi hynny, rydym ni’n pennu pum thema y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw dros dymor y pumed Cynulliad. Bydd y gwaith ar y themâu hyn yn ein harwain i fod yn gorff sydd yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog ac yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dyna’r nod lefel uchel, wrth gwrs, sydd yn ganolog i’r cynllun.

Er mwyn inni wireddu’r uchelgais hon, bydd angen sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn naturiol ac yn ddiofyn. I wneud hyn, bydd angen cymryd camau breision ar adegau gan gynnwys ailystyried y ffordd y byddwn yn pennu gofynion ieithyddol swyddi, a defnyddio dulliau recriwtio amgen ac arloesol pan na fyddwn ni’n llwyddo i ddenu ymgeiswyr gyda’r sgiliau iaith angenrheidiol trwy ddulliau traddodiadol.

Byddwn hefyd yn parhau â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau o ran hyfforddiant sgiliau iaith i Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff y Comisiwn, gan sicrhau wedi hynny ein bod ni’n darparu hyfforddiant hyblyg a phwrpasol i bawb sy’n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg.

Trwy gydol y pumed Cynulliad, byddwn yn canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol fel arf i’n helpu ni i sicrhau bod y sgiliau priodol gan ein staff i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn rhagweithiol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r strategaeth sgiliau dwyieithog, ac edrych ar ffyrdd o gaslgu gwybodaeth gyfoes am sgiliau iaith y sefydliad wrth i ni fynd ymlaen yn ystod y tymor hwn. Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni yn cefnogi Aelodau Cynulliad i ymgymryd â’u rôl fel Aelodau etholedig, ac mae’n dda gweld y brwdfrydedd, a dweud y gwir, ymhlith Aelodau sydd yn dysgu. Nid ydw i’n siŵr a ydw i i fod i ddatgan buddiant fan hyn—wrth gwrs, mae fy mrawd yn un o’r tiwtoriaid iaith. Ond rydw i’n gweld, wrth siarad gydag Aelodau, bod yna frwdfrydedd gwirioneddol, a dweud y gwir, yn cael ei fynegi gan Aelodau Cynulliad, a’r un peth, wrth gwrs, gyda’u staff cymorth a staff y Cynulliad—staff y Comisiwn—o ran eu profiad nhw o ddarpariaeth yr hyfforddiant sydd ar gael.

A’r thema olaf yw datblygu ethos dwyieithog y sefydliad. Fel y soniais i, rŷm ni eisiau cael ein hadnabod fel sefydliad dwyieithog, ble mae’r ddwy iaith i’w clywed yn naturiol. Ac rŷm ni wedi cael adborth arbennig o gadarnhaol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn y cyswllt yma, yn dilyn cynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ar ein hystâd ni fan hyn. Nododd bod ymwelwyr o bob cwr o’r byd wedi mwynhau clywed y Gymraeg yn fyw o’u cwmpas yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Senedd. Fodd bynnag, i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, mae mwy o waith i’w wneud. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o adnabod staff dwyieithog ar yr ystâd, gan adeiladu ar lwyddiant y cortynnau gwddf i ddysgwyr a gyflwynwyd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg i’n cynorthwyo i fod yn arloesol ac yn flaengar yn y maes yma bob amser.

Felly, gyda’r sylwadau cychwynnol hynny, edrychaf ymlaen i glywed sylwadau fy nghyd-Aelodau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:32, 12 Gorffennaf 2017

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

Diolch, Llywydd, a diolch i Adam Price am ei araith yn hynny o beth. Yn ein cyfarfod ar 10 Mai, trafododd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y cynllun ieithoedd swyddogol drafft, fel yr amlinellwyd yn flaenorol, a chawsom dystiolaeth lafar gan Adam Price, Comisiynydd y Cynulliad ar yr iaith Gymraeg, a chan swyddogion y Cynulliad hefyd. Fodd bynnag, cyn craffu ar y cynllun drafft, cytunodd y pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyfyngedig i geisio barn sefydliadau a allai fod o ddiddordeb yn y maes hwn. A chawsom ni ymatebion gan Gomisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru, y mentrau iaith, ac undebau llafur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar ôl cael tystiolaeth gan Adam, ysgrifennais ato i grynhoi barn y pwyllgor am y cynllun drafft. Mae fy llythyr i’w gael ar agenda’r Cyfarfod Llawn fel papur ategol, yn ogystal â’r ymateb a gefais gan Adam. Roedd Aelodau yn fodlon, ar y cyfan, â’r cynllun drafft, ac yn cydnabod y gefnogaeth gyffredinol ardderchog a oedd ar gael iddynt, i’w helpu i wneud eu gwaith yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd nifer o’r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, yn fy llythyr, gofynnais am sicrwydd ynghylch nifer o bwyntiau cyn gofyn i’r Cynulliad fabwysiadu’r cynllun yn ffurfiol.

Roedd y materion hyn yn cynnwys hygyrchedd gwefan y Cynulliad ar gyfer pobl â nam ar eu golwg, a’r ffaith nad oedd y fersiwn Gymraeg o’r rhyngrwyd yn ddealladwy, gan ei bod yn defnyddio ffoneteg y Saesneg. Ond rwyf yn falch o nodi bod gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r mater hwn, er y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Adam Price gadarnhau y bydd gwefan y Cynulliad yn defnyddio’r lleisiau synthetig newydd cyn gynted ag y bo modd. Holwyd hefyd a allai meddalwedd Microsoft Translator helpu i ddatblygu sgiliau iaith defnyddwyr. Unwaith eto, rwyf yn falch o nodi bod hyfforddiant ychwanegol ar gael os oes angen.

Mae’r cynllun braidd yn brin o dargedau meintiol. Esboniodd Adam Price nad oedd Comisiwn y Cynulliad yn argyhoeddedig mai targedau meintiol yw’r ffordd orau o reidrwydd o greu sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Roedd ymateb Adam Price yn cynnwys rhagor o wybodaeth am rai o’r ffyrdd mwyaf ansoddol a rheolaidd a gaiff eu defnyddio o fonitro llwyddiant y cynllun. Ond byddai’n dda gweld targedau o ran hyfforddiant i’r gweithle yn y cynllun, yn ôl cymdeithas yr iaith. A fyddai’r Comisiwn efallai yn fodlon ailystyried hwn, a rhoi’r fath dargedau yn eu lle?

Credaf fod angen ystyried ymhellach a ellid pennu targedau mesuradwy, a allai fod yn gymhelliant i wella, er mwyn i ni fel Cynulliad sgrwtineiddio’r hyn sydd yn digwydd o ran y cynllun iaith, ac er mwyn i’r cyhoedd sgrwtineiddio’r hyn sydd yn digwydd yn y cynllun iaith. Gofynnodd y pwyllgor hefyd am ragor o wybodaeth am y dull newydd o recriwtio a amlinellir yn y cynllun drafft. Roedd y pwyllgor yn gyffredinol o blaid y fframwaith rhuglder newydd, a fydd yn golygu y bydd angen i bob aelod newydd o staff yn y dyfodol ddangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol o leiaf. Caiff hyn ei ddiffinio fel y gallu i adnabod, ynganu a defnyddio ymadroddion ac enwau cyfarwydd, ac i ddeall testunau sylfaenol, fel negeseuon e-bost syml.

Fodd bynnag, nid oes llawer o wybodaeth yn y cynllun drafft ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio yn ymarferol. Sylwais fod Adam yn ei ymateb yn dweud y caiff gweithgor ei sefydlu i sicrhau y bydd y system arfaethedig yn addas i’r diben hwn. Er nad wyf yn credu ei fod yn rheswm i wrthod y cynllun yma heddiw, rhaid i mi ddweud fy mod yn ei chael hi braidd yn od fod cynnig gerbron y Cynulliad i gymeradwyo cynllun sy’n cynnwys un elfen allweddol na fydd efallai yn addas i’r diben yn y pen draw. Efallai yr hoffai Adam Price a’r Comisiwn gnoi cil ar hynny. Hefyd, yn ei dystiolaeth lafar, cadarnhaodd Adam Price y byddai’r dull newydd o recriwtio yn cael ei gymhwyso’n wirfoddol i staff presennol, ac na fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn rhan allweddol o benderfyniadau’n ymwneud â dyrchafu neu hyrwyddo staff. Fodd bynnag, yn ei ymateb a ysgrifennodd i’r pwyllgor, mae Adam yn dweud y byddai angen i staff sy’n gwneud cais am swyddi gwag neu swyddi newydd, ac rwy’n dyfynnu, ddangos lefel sgiliau iaith sy’n gysylltiedig â’r swydd honno.’

Mae hynny, wrth gwrs, ychydig yn wahanol, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Adam egluro’r rheswm dros y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedodd yn ei dystiolaeth lafar â’r hyn a ddywedodd yn ei ymateb ysgrifenedig.

Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am y gofyniad i unrhyw staff newydd ddangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol, gan y gallai hynny effeithio ar y gallu i recriwtio staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig staff BME. Roedd Adam Price wedi paratoi asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb i liniaru rhai o’r pryderon hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:32, 12 Gorffennaf 2017

Mae e braidd yn siomedig fod y pwyllgor wedi cael cais i beidio â chyhoeddi’r asesiad hwn am resymau gweinyddol. Gan hynny, ni all Aelodau eraill y Cynulliad, na’r cyhoedd yn gyffredinol, farnu a yw’r mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae’n bwysig ei fod e’n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Ac ychwanegiad hoffwn i ei ddweud yn hynny o beth yw ein bod ni yn gofyn yn aml i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y pethau yma, ac rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod y Cynulliad yn dangos yr un parodrwydd i gyhoeddi yn hynny o beth. Cytunodd y pwyllgor i barchu’r cais hwn, ond mae’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan bwysig o benderfynu a yw mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae’n bwysig ei fod e’n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Er yr hyn rydw i wedi codi cwestiynau yn eu cylch, byddwn i’n dal am i’r cynllun yma basio, ac rydw i’n diolch yn fawr iawn i Adam Price a’r tîm am weithio ar y rhaglen yma. Gobeithio y byddwn ni’n gallu sgrwtineiddio hwn eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:38, 12 Gorffennaf 2017

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch hefyd i Adam am ddod â’r cynllun newydd yma cyn toriad yr haf? Hoffwn hefyd estyn fy niolch i staff y Comisiwn, sydd wedi gweithio mor galed i weithredu’r cynllun blaenorol ac i baratoi yr un newydd. Hoffwn ddechrau gyda’r adroddiad cydymffurfio blynyddol, os yw hynny’n ocê. Nid oes llawer ynddo am gwynion cydymffurfio, felly rwy’n tybio na fu llawer o gwynion am ddiffyg cydymffurfio, a’r rhai sydd wedi cael eu derbyn wedi cael eu trin yn gyflym. Mae hyn yn newyddion braf, ond, fel gyda gweddill yr adroddiad, fel y mae Bethan wedi ei ddweud, rwy’n credu y byddai wedi bod yn fwy grymus pe gallem wedi gweld perfformiad yn erbyn unrhyw dargedau a syniad o gostau gweithredu hefyd.

Rwy’n gweld, ac yn derbyn, wrth gwrs, bod y cynllun newydd yn cymryd y mater o dargedu a strwythurau, a byddwn yn gobeithio gweld cyfeiriad at y rhain mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol. Ond codaf hyn yma gan ei fod yn dipyn o gyfle a gollwyd yn fy marn i, oherwydd mai ein profiad byw fel Aelodau yw ein bod ni wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ein gallu i weithio’n ddwyieithog ac yn natblygiad ethos ddwyieithog y Cynulliad fel sefydliad. Ond gallai’r adroddiad hwn fod wedi dweud wrthym faint o aelodau staff y Comisiwn sydd wedi gwella’u sgiliau eu hunain, i ba fath o lefel, ac yma mha feysydd, er enghraifft, sut mae’r ymchwil ar ddewis iaith pob Aelod wedi gwneud cefnogaeth i’n gwaith pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yn fwy effeithlon o ran amser ac, wrth gwrs, cost, hyd yn oed, sut y mae cyfathrebu dwyieithog gyda’r cyhoedd wedi ysgogi unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â sefydliad y Cynulliad—jest er mwyn gweld mewn ffordd rydym ni’n gallu ei ddeall sut y mae’r gwelliant yn cael ei wneud. Mae’n ffordd o asesu effeithiolrwydd ein cynllun wrth gyflawni ein nodau—mwy nag adroddiad cydymffurfiaeth syml.

Rwy’n credu ein bod ni wedi cymryd camau mawr fel sefydliad, fel y dywedoch chi, Adam, gan gymryd ofn, amheuaeth, a hyd yn oed ceryddu, allan o weithio mewn gweithle dwyieithog, waeth beth yw eich sgiliau eich hun a waeth beth yw dewisiadau ieithyddol eich cydweithwyr. Rwy’n cynnig llongyfarchiadau cynnes i staff y Comisiwn am eu llwyddiant gyda’r cynllun blaenorol, ond rydw i’n gobeithio y bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn gallu rhoi rhai ffigurau, yn ogystal â’r naratif positif, i ni. Gofynnwn hyn gan y Llywodraeth, fel y dywedodd Bethan, ac mae’n rhaid i ni ofyn hyn i ni ein hunain hefyd.

Mae gan y Comisiwn dri nod cyffredinol. Y cyntaf yw cynnig cymorth seneddol rhagorol dwyieithog i Aelodau, ac rwy’n credu ei fod yn gwneud hynny—deall ein dewisiadau iaith, gwelliannau mewn cyfieithu digidol, a gwersi Cymraeg i ni a’n staff mewn ffordd wedi ei deilwra’n fwy. Mae gyda ni ‘buddies’ nawr i’n helpu ni, os rydym yn dewis bod yn fwy dwyieithog. Mae gyda ni fynediad at gronfa cyfieithu canolog i’n helpu ddefnyddio’r ddwy iaith heb anghyfleustra na ddraenio cyllideb ein swyddfa, ac mae gyda ni record o drafodion gyflymach yn y ddwy iaith a deunyddiau dwyieithog hefyd.

Ond y gair yw ‘cefnogi’, nid ‘cyfarwyddo’, a thra dylai Aelodau, yn fy marn bersonol, ystyried sut y gallem gyfrannu’n weithredol at ethos dwyieithog y sefydliad, mae’n fater i’r sefydliad ein hannog a’n galluogi ni, ond nid i ddweud wrthym sut i wneud hynny.

Mae’r cynllun yn berthnasol i sefydliad y Cynulliad ac mae ei ffocws, yn gwbl briodol, ar sut mae’r sefydliad ei hun yn ymgysylltu â phobl Cymru ac yn hyrwyddo’r Cynulliad ei hun—yr ail o amcanion strategol y Comisiwn. Mae gofynion ar staff y Comisiwn yn cael eu nodi’n glir yn rhan 2 o’r cynllun, sydd yn ei wneud yn haws i unrhyw un sy’n ymwneud â’r Cynulliad ei hun wybod beth y gallant ei ddisgwyl fel hawl. Mae’n galonogol felly bod y cynllun newydd yn canolbwyntio ar sgiliau recriwtio ac iaith. Rwy’n falch iawn bod cynnydd mewn caffael sgiliau’r iaith Gymraeg sy’n berthnasol i rôl benodol, a fydd yn cael ei ddathlu mewn adolygiadau rheoli perfformiad.

Trydydd amcan y Comisiwn yw defnyddio adnoddau yn ddoeth. Nid yw hyn yn meddwl arian yn unig wrth gwrs, ond cyfalaf dynol yn ogystal. Hoffwn i’r adroddiad nesaf grynhoi’r cynnydd o ran yr adolygiad o strategaeth sgiliau dwyieithog y Cynulliad a sut y mae adnabod aelodau staff dwyieithog wedi gwneud newid i gefnogaeth seneddol ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n mynd yn dda—mae gyda ni lawer i fod yn falch ohono, a byddai’n grêt i weld mwy o bobl yn y Cynulliad yn gwisgo’r ‘lanyards’ yma yn y dyfodol. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:43, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r ddau Aelod am eu sylwadau’r prynhawn yma. Jest i ymateb, felly, yn gyntaf i sylwadau Bethan Jenkins fel Cadeirydd y pwyllgor, gwnaf gyfro gymaint ag y gallaf i yn ystod fy sylwadau, ond os ydw i’n anghofio unrhyw beth, gwnaf i ysgrifennu atoch chi.

O ran yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, rwy’n credu y gwnaethom ni ddweud yn y llythyr y byddem ni wrth gwrs yn hapus i’r pwyllgor benderfynu pa un ai i gyhoeddi neu beidio, ac rwy’n derbyn bod yna gynsail pwysig o ran egwyddor ac yn y blaen. Roedd yna resymau pam efallai nad oeddem eisiau ei gyhoeddi ar y pwynt yna, ond nid ydym ni’n gwrthwynebu, ac rwy’n deall pam yr oedd y Cadeirydd yn codi hynny.

O ran lleisiau synthetig, rwy’n credu efallai ein bod ni’n ymdreiddio i faes technegol nad ydw i’n sicr fod gen i grap llwyr arno fe. Rydw i’n deall bod yna waith wedi mynd ymlaen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r RNIB o ran darparu’r meddalwedd yma i ddefnyddwyr. Ac rwy’n credu’r cwestiwn, neu efallai beth sy’n bwysig, yw bod defnyddwyr, wrth gwrs, yn gwybod am argaeledd y dechnoleg yma wrth iddyn nhw geisio darllen gwaith y Cynulliad, ac yn y blaen, ond fe wnaf i ysgrifennu at y Cadeirydd, os caf i, ynglŷn â hynny.

Roedd yna gwestiwn ynglŷn â chyflwyno lefel cwrteisi sylfaenol, ac rydw i’n credu os oedd yna unrhyw amwysedd, arnaf i yn llwyr mae’r bai am hynny. Rydw i’n credu beth roeddwn i’n ceisio pwysleisio, wrth gwrs, yn y pwyllgor—sydd yn wir—oedd nad oes disgwyl i unrhyw ddeilydd swydd presennol gwrdd â’r angen newydd yma ar gyfer ei swydd bresennol. Pe baen nhw’n penderfynu ceisio am swydd newydd—felly, dyrchafiad neu swydd wag—wedyn, wrth gwrs, byddai hynny yn rhwym, yn golygu eu bod nhw’n gorfod cwrdd â’r lefel yna. Felly, os ydych chi’n cadw yn yr un swydd, nid ydych chi’n gorfod cwrdd â’r lefel, ond os ydych yn ymgeisio ar gyfer swydd newydd, mae yn effeithio ar y sefyllfa hwnnw.

O ran targedau meintiol, mae’n drafodaeth ddifyr, a dweud y gwir. Mae rhyw fath o wahaniaeth athronyddol, bron a bod: sut mae esgor ar lwyddiant? Mae yna rai sydd yn credu’n gryf, wrth gwrs, mewn grym targedau meintiol. Hynny yw, ein barn ni wrth edrych ar y cynllun oedd bod gosod nodau sydd yn dilyn y themâu rydym ni wedi eu gosod mas yn bwysicach o ran y cynllun, oherwydd bod rhai o’r nodau yn ansoddol o ran eu hanian, a dweud y gwir, a byddai’n anodd, gyda phob un ohonyn nhw, i gyfieithu hynny i mewn i nod. Hynny yw, beth yw arwyddocâd bod yn naturiol ddwyieithog o ran canran, er enghraifft, sy’n gallu siarad Cymraeg?

Ond, rydw i yn credu—ac yng nghyswllt yr hyn roedd Suzy Davies yn codi ynglŷn â’r adroddiad blynyddol—rydw i yn credu bod yna le i falanso, a dweud y gwir, y naratif gyda’r ffigyrau. Ac efallai beth hoffwn i ei wneud yw nawr cymryd i ffwrdd y sylwadau rydym ni wedi eu cael a gweld, yng nghyd-destun y monitro ar y cynllun—yr asesu, wrth gwrs, yn erbyn y nodau lefel uchel sydd yn y cynllun—sut mae hynny yn gallu cael ei gyfieithu i mewn i dargedau meintiol, fel ein bod ni yn flynyddol, wrth gwrs, fel Cynulliad ac yn allanol, yn gallu asesu’r cynnydd yn erbyn y nodau go uchelgeisiol rydym ni wedi eu gosod. Felly, os caf i, fe gymeraf i i ffwrdd y sylwadau hynny, a chnoi cil arnyn nhw. Mae monitro, wrth gwrs, yn mynd i fod yn bwysig iawn, ac rydym ni’n croesawu parhau, wrth gwrs, gyda rôl y pwyllgor yn hyn o beth, ac mae nifer o bwyllgorau eraill, wrth gwrs, wedi craffu ar wahanol elfennau o gynlluniau iaith yn ystod Cynulliadau o’r blaen, ac fe fyddwn ni’n croesawu hynny i’r un graddau.

Felly, gyda’r sylwadau hynny yn gyffredinol, rydym ni yn croesawu’r gefnogaeth gyffredinol sydd i’r cynllun ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r pwyllgor a gyda chi fel Aelodau’r Cynulliad, gan sicrhau bod y nod cyffrous ac uchelgeisiol sydd wedi cael ei osod yn y cynllun yma yn cael ei gwblhau.

I gloi, hoffwn i ddiolch yn fawr i fy rhagflaenydd yn y pedwerydd Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, am ei waith yn creu’r sylfeini cadarn yma y byddwn ni’n adeiladu arnyn nhw wrth symud ymlaen. Hoffwn i ddiolch hefyd i’m cyd-Aelod Dai Lloyd am ei waith fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol cyn i mi etifeddu’r rôl wedi toriad yr haf y llynedd. A gaf i ddiolch hefyd, yn bennaf oll, i’r staff, i ddweud y gwir—staff y Comisiwn—am y gwaith rhagorol a diflino maen nhw i gyd yn ei wneud er mwyn sicrhau y nod yma, bod y sefydliad yma yn naturiol ddwyieithog ac yn ysbrydoli pobl—yn ysbrydoli sefydliadau eraill i ddangos yr hyn sy’n bosib nawr yn y Gymru gyfoes?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:50, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.