5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:43, 12 Gorffennaf 2017

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r ddau Aelod am eu sylwadau’r prynhawn yma. Jest i ymateb, felly, yn gyntaf i sylwadau Bethan Jenkins fel Cadeirydd y pwyllgor, gwnaf gyfro gymaint ag y gallaf i yn ystod fy sylwadau, ond os ydw i’n anghofio unrhyw beth, gwnaf i ysgrifennu atoch chi.

O ran yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, rwy’n credu y gwnaethom ni ddweud yn y llythyr y byddem ni wrth gwrs yn hapus i’r pwyllgor benderfynu pa un ai i gyhoeddi neu beidio, ac rwy’n derbyn bod yna gynsail pwysig o ran egwyddor ac yn y blaen. Roedd yna resymau pam efallai nad oeddem eisiau ei gyhoeddi ar y pwynt yna, ond nid ydym ni’n gwrthwynebu, ac rwy’n deall pam yr oedd y Cadeirydd yn codi hynny.

O ran lleisiau synthetig, rwy’n credu efallai ein bod ni’n ymdreiddio i faes technegol nad ydw i’n sicr fod gen i grap llwyr arno fe. Rydw i’n deall bod yna waith wedi mynd ymlaen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r RNIB o ran darparu’r meddalwedd yma i ddefnyddwyr. Ac rwy’n credu’r cwestiwn, neu efallai beth sy’n bwysig, yw bod defnyddwyr, wrth gwrs, yn gwybod am argaeledd y dechnoleg yma wrth iddyn nhw geisio darllen gwaith y Cynulliad, ac yn y blaen, ond fe wnaf i ysgrifennu at y Cadeirydd, os caf i, ynglŷn â hynny.

Roedd yna gwestiwn ynglŷn â chyflwyno lefel cwrteisi sylfaenol, ac rydw i’n credu os oedd yna unrhyw amwysedd, arnaf i yn llwyr mae’r bai am hynny. Rydw i’n credu beth roeddwn i’n ceisio pwysleisio, wrth gwrs, yn y pwyllgor—sydd yn wir—oedd nad oes disgwyl i unrhyw ddeilydd swydd presennol gwrdd â’r angen newydd yma ar gyfer ei swydd bresennol. Pe baen nhw’n penderfynu ceisio am swydd newydd—felly, dyrchafiad neu swydd wag—wedyn, wrth gwrs, byddai hynny yn rhwym, yn golygu eu bod nhw’n gorfod cwrdd â’r lefel yna. Felly, os ydych chi’n cadw yn yr un swydd, nid ydych chi’n gorfod cwrdd â’r lefel, ond os ydych yn ymgeisio ar gyfer swydd newydd, mae yn effeithio ar y sefyllfa hwnnw.

O ran targedau meintiol, mae’n drafodaeth ddifyr, a dweud y gwir. Mae rhyw fath o wahaniaeth athronyddol, bron a bod: sut mae esgor ar lwyddiant? Mae yna rai sydd yn credu’n gryf, wrth gwrs, mewn grym targedau meintiol. Hynny yw, ein barn ni wrth edrych ar y cynllun oedd bod gosod nodau sydd yn dilyn y themâu rydym ni wedi eu gosod mas yn bwysicach o ran y cynllun, oherwydd bod rhai o’r nodau yn ansoddol o ran eu hanian, a dweud y gwir, a byddai’n anodd, gyda phob un ohonyn nhw, i gyfieithu hynny i mewn i nod. Hynny yw, beth yw arwyddocâd bod yn naturiol ddwyieithog o ran canran, er enghraifft, sy’n gallu siarad Cymraeg?

Ond, rydw i yn credu—ac yng nghyswllt yr hyn roedd Suzy Davies yn codi ynglŷn â’r adroddiad blynyddol—rydw i yn credu bod yna le i falanso, a dweud y gwir, y naratif gyda’r ffigyrau. Ac efallai beth hoffwn i ei wneud yw nawr cymryd i ffwrdd y sylwadau rydym ni wedi eu cael a gweld, yng nghyd-destun y monitro ar y cynllun—yr asesu, wrth gwrs, yn erbyn y nodau lefel uchel sydd yn y cynllun—sut mae hynny yn gallu cael ei gyfieithu i mewn i dargedau meintiol, fel ein bod ni yn flynyddol, wrth gwrs, fel Cynulliad ac yn allanol, yn gallu asesu’r cynnydd yn erbyn y nodau go uchelgeisiol rydym ni wedi eu gosod. Felly, os caf i, fe gymeraf i i ffwrdd y sylwadau hynny, a chnoi cil arnyn nhw. Mae monitro, wrth gwrs, yn mynd i fod yn bwysig iawn, ac rydym ni’n croesawu parhau, wrth gwrs, gyda rôl y pwyllgor yn hyn o beth, ac mae nifer o bwyllgorau eraill, wrth gwrs, wedi craffu ar wahanol elfennau o gynlluniau iaith yn ystod Cynulliadau o’r blaen, ac fe fyddwn ni’n croesawu hynny i’r un graddau.

Felly, gyda’r sylwadau hynny yn gyffredinol, rydym ni yn croesawu’r gefnogaeth gyffredinol sydd i’r cynllun ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r pwyllgor a gyda chi fel Aelodau’r Cynulliad, gan sicrhau bod y nod cyffrous ac uchelgeisiol sydd wedi cael ei osod yn y cynllun yma yn cael ei gwblhau.

I gloi, hoffwn i ddiolch yn fawr i fy rhagflaenydd yn y pedwerydd Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, am ei waith yn creu’r sylfeini cadarn yma y byddwn ni’n adeiladu arnyn nhw wrth symud ymlaen. Hoffwn i ddiolch hefyd i’m cyd-Aelod Dai Lloyd am ei waith fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol cyn i mi etifeddu’r rôl wedi toriad yr haf y llynedd. A gaf i ddiolch hefyd, yn bennaf oll, i’r staff, i ddweud y gwir—staff y Comisiwn—am y gwaith rhagorol a diflino maen nhw i gyd yn ei wneud er mwyn sicrhau y nod yma, bod y sefydliad yma yn naturiol ddwyieithog ac yn ysbrydoli pobl—yn ysbrydoli sefydliadau eraill i ddangos yr hyn sy’n bosib nawr yn y Gymru gyfoes?