Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn, sy’n cael ei gynnig hefyd gan Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Julie Morgan. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cefnogi’r cynnig hwn.
Hoffwn agor y ddadl hon gyda stori am ferch ifanc o Hwlffordd. Ei henw yw Aimee, ac efallai y bydd rhai ohonoch wedi ei chyfarfod yn ystod y digwyddiad galw heibio a drefnwyd ar godi ymwybyddiaeth o arthritis idiopathig ieuenctid bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead. Rwy’n falch o ddweud fy mod yn meddwl bod bron i hanner Aelodau’r Cynulliad wedi mynychu’r digwyddiad hwnnw. Daw’r cyfrif personol hwn gan dad Aimee, Darren:
Cafodd Aimee ddiagnosis o arthritis idiopathig ieuenctid ychydig cyn ei hail ben-blwydd, ac fe gymerodd chwe mis i ni gael diagnosis. Nid oedd y meddygon lleol yn meddwl mai arthritis ydoedd, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn gwybod llawer am arthritis mewn plant. Roedd yn syndod i lawer o bobl. Rhaid i Aimee fynd i’r ysbyty bob mis—mae hyn yn golygu teithio i Gaerdydd, sydd ddwy awr i ffwrdd—taith gron o 230 milltir. Ar ôl iddi gael y driniaeth gallaf weld gwahaniaeth o fewn diwrnod neu ddau. Mae’r gofal meddygol yng Nghaerdydd wedi bod yn dda iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn. Er hynny, yn lleol mae wedi bod yn anghyson ac yn wael gan fod llawer iawn o anwybodaeth ynglŷn ag arthritis mewn plant. Mae teithio i Gaerdydd yn rhoi straen enfawr arnom. Mae’n golygu colli diwrnodau o ysgol a rhaid i fy mhartner gymryd amser o’r gwaith, nad yw’n hawdd bob amser. Rydym wedi gorfod treulio wythnos yng Nghaerdydd yn y gorffennol pan oedd angen ffisiotherapi arni gan na all gael hynny’n lleol. Rydym wedi ystyried symud yn nes at Gaerdydd ar sawl achlysur. Mae’n bryder gwirioneddol bob dydd gan na all ein meddygon lleol roi triniaeth effeithiol i Aimee. Rydym yn credu y byddai darparu adran amlddisgyblaethol nid yn unig yn rhoi lefel uwch o ofal i’r plant ond hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a hybu gwybodaeth gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau y tu allan i ardal Caerdydd. Byddai hyn yn galluogi plant ledled Cymru i gael plentyndod heb ei ddominyddu gan arthritis.
Rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad teimladwy iawn—bywydau teulu gyda phlentyn ifanc sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Fe gyfeiriaf ato yn awr fel AII. Rwy’n credu bod Darren yn crynhoi’n effeithiol sut y byddai canolfan bediatrig arbenigol yn cael dylanwad cadarnhaol ar wasanaethau ledled Cymru ac felly’n gwella bywydau plant ag AII.
Pan glywais gyntaf gan gynrychiolwyr Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg, sydd oll wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn, roeddwn yn synnu nad oedd gwasanaethau o’r fath yn bodoli eisoes. Roedd yn dorcalonnus i ddeall mai Cymru, gyda’i phoblogaeth o 3.1 miliwn, yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth arbenigol o’r fath. Mae hyn o’i gymharu â Gogledd Iwerddon gyda’i 1.8 miliwn o boblogaeth, sydd ag un ganolfan, a’r Alban gyda’i 5.2 miliwn, sydd â dwy ganolfan. Mae gan Loegr 12 canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae’n gwbl annerbyniol yn fy marn i fod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl.
Mae 12,000 o blant yn y DU yn dioddef o AII, ac amcangyfrifir bod 400 o’r rhain yn byw yn ardal de Cymru. Fel y gwelwch, Aelodau, nid yw hwn yn fater ymylol. Mae papur manyleb gwasanaeth y GIG yn Lloegr a gyhoeddwyd yn 2013 yn nodi y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd ac un therapydd galwedigaethol yn GIG Lloegr i bob 1 filiwn o’r boblogaeth neu bob 200,000 o blant. Ar hyn o bryd, mae rhewmatolegydd oedolion profiadol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, y gallwn ychwanegu ei fod ar fin ymddeol yn y blynyddoedd nesaf, yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau rhewmatoleg bediatrig arbenigol ar gyfer de Cymru. Felly, mae hyd yn oed y ddarpariaeth lenwi bwlch hon yn fregus iawn, o ystyried yr ymddeoliad sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, mae rhai plant o dde Cymru yn teithio i Fryste, Birmingham a hyd yn oed ymhellach. Fel y dangosir yn y datganiad gan deulu Aimee, gall teithio pellteroedd hir fod yn boenus ac yn llawn straen i blant ag arthritis, a gall achosi tarfu ar addysg a bywyd teuluol.
Mae hwn yn fater y mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag ef yn fy marn i. Dylid cynllunio olyniaeth mewn da bryd i osgoi sefyllfa o fod heb wasanaeth o gwbl, a byddai recriwtio ar gyfer y swydd yn haws os rhoddir cynlluniau ar waith i ddatblygu’r gwasanaeth i fod yn ddarpariaeth drydyddol lawn.
Mae AII yn gyflwr awto-imiwn difrifol, ac os na chaiff ei drin a’i reoli’n briodol, gall achosi anableddau sylweddol gydol oes. Mae angen i blant ag arthritis gael mynediad at wasanaethau iechyd a chymorth o ansawdd uchel er mwyn helpu i gyfyngu ar effaith eu cyflwr ac i’w helpu i gyrraedd eu gwir botensial. Yn ôl AbbVie, y sefydliad ymchwil a datblygu fferyllol, un o’r ffactorau pwysicaf i sicrhau nad oes gan blentyn sydd ag AII niwed arthritis difrifol a niwed i’r cymalau pan fyddant yn oedolion yw i blant gael diagnosis a thriniaeth yn gynnar. Po hwyaf y bydd arthritis wedi bod yn weithredol cyn i’r driniaeth ddechrau, y mwyaf anodd yw hi i reoli’r clefyd. Un agwedd ar y broblem yn unig yw hon, ond gall diagnosis a thriniaeth gynnar fynd mor bell ag ymestyn hyd oes rhywun sy’n dioddef o arthritis, gan ei fod mor allweddol. Gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn yn ne Cymru yn unig, gyda 400,000 o’r rhain yn blant, credaf fod achos pendant dros gael canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol yng Nghymru.
Mae pwynt 4 y cynnig hwn yn gofyn i’r Cynulliad nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, PGIAC, wrthi’n cynnal adolygiad. Bydd yr adolygiad yn edrych ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn asesu unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth yn ôl galw, ansawdd gwasanaethau a manyleb. Rwy’n croesawu’r adolygiad hwn, ac rwy’n croesawu’r newyddion fod cyfarfodydd wedi’u trefnu rhwng PGIAC a’r sefydliadau perthnasol, megis Gofal Arthritis. Rwy’n gobeithio bod hyn yn arwydd o gynnydd ar gyfer datblygu canolfan o’r fath. Mae ymddeoliad arfaethedig y rhewmatolegydd presennol yn ychwanegu pwysau amser i’r mater hwn, ac ni ddisgwylir i adolygiad PGIAC gael ei gwblhau tan ddechrau 2018. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eisoes yn glir ar yr angen am wasanaeth amlddisgyblaethol llawn. Gallai adolygiad PGIAC fod o ddefnydd ar gyfer edrych ar sut i weithredu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion y boblogaeth orau yn hytrach nag edrych unwaith eto i weld a oes angen un ar Gymru. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl y rhannau eraill o’r DU. Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth roi arweiniad cadarn a nodi ei bod yn bwriadu comisiynu’r gwasanaeth hwn fel na fydd Cymru yn unig ran o’r DU heb ddarpariaeth leol resymol.
Dirprwy Lywydd, os caf orffen gyda hyn, sef dyfyniad olaf o stori Aimee, unwaith eto yng ngeiriau ei thad:
Mae cyflwr Aimee yn anodd iddi. Nid yw’n gallu gwneud yr un pethau â phawb arall. Yn ei hoed hi, tynnir sylw at hyn yn aml. Pethau bach, fel bod yn absennol o’r ysgol yn aml, fel nad yw hi byth yn ennill gwobrau presenoldeb neu’r ffaith ei bod hi’n methu rhedeg o gwmpas gyda’i chyd-ddisgyblion. Mae yna rywbeth sy’n atgoffa’n gyson fod ganddi arthritis.
Dirprwy Lywydd, rwy’n credu y gallwn wneud mwy i wella bywydau’r plant ifanc hyn, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn cyflwr sy’n gwneud bywyd bob dydd yn her. Rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i Aelodau’r Cynulliad. Diolch.