Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Rwy’n llongyfarch David Melding ar gael y ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o’i gefnogi. Fel y gwyddom o’r drafodaeth, nid rhywbeth y mae pobl hŷn yn unig yn ei gael yw arthritis, oherwydd credaf mai dyna fydd pobl yn aml yn ei feddwl. Deuthum yn ymwybodol o arthritis plentyndod, sy’n effeithio ar 400 o blant yn ne Cymru, ar ôl i un o fy etholwyr, Dawn Nyhan, ddod i gysylltiad â mi a chyfarfûm â hi a’i merch Harriet, sydd bellach yn 19. Cafodd ei diagnosis cyntaf o arthritis idiopathig ieuenctid pan oedd yn ddim ond dwy oed, yn debyg i etholwr David. Yn ogystal ag effeithiau mwy cyfarwydd arthritis plentyndod, megis niwed i’r cymalau a phroblemau symudedd, sydd eisoes wedi cael eu crybwyll heddiw, efallai ei bod yn llai hysbys fod 10 i 20 y cant o blant yn datblygu cyflwr llygad llidiol a all achosi dallineb os na chaiff ei drin. Felly, mae’r salwch hwn yn gyflwr difrifol iawn os caiff ei adael heb ei drin.
Mae tua 60 i 70 y cant o blant yn tyfu allan o arthritis gwynegol, yn yr ystyr nad oes ganddynt glefyd parhaus, ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt barhau i ymdopi â phroblemau o ganlyniad i niwed i’r cymalau a ddioddefasant pan oeddent yn iau, a bydd rhwng 30 a 56 y cant o bobl ag arthritis plentyndod yn dioddef cyfyngiadau difrifol o ran deheurwydd a symudedd pan fyddant yn oedolion.
Yn anffodus, mae problemau Harriet yn barhaus, er ei bod yn benderfynol o beidio â gadael iddo ei hatal rhag cyflawni. Mae Harriet bellach yn hyfforddi i fod yn nyrs, ond mae hi wedi cael cymaint o niwed i’r cymalau fel bod symudedd yn broblem ac mae hi’n dal i gael dyddiau pan na all gerdded i lawr y grisiau ac mae mewn poen dirdynnol, ac nid yw byth yn gwybod pryd y bydd angen triniaeth neu lawdriniaeth arni nesaf.
Dywedodd mam Harriet, Dawn, eu bod wedi sylwi ar boen a phroblemau gyda symud yn gyntaf pan oedd hi’n ddwy flwydd oed. Roedd hi wedi dechrau cerdded yn gynnar ond dechreuodd lusgo’i thraed ac roedd hi’n amlwg mewn poen mawr. Ar y dechrau, dywedwyd wrth y rhieni mai poenau tyfiant oeddent a theimlent eu bod wedi cael eu trosglwyddo o un man i’r llall heb ddiagnosis. Soniodd David am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn ei araith. Credaf o ddifrif mai dyna un o’r pwyntiau y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy heddiw. Nid oes digon o wybodaeth ymhlith meddygon teulu ynglŷn ag arthritis ieuenctid, a gwelodd y teulu hefyd nad oedd unrhyw wybodaeth am y cyflwr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys pan fyddent yn mynd â Harriet yno.
Yn y pen draw, ar ôl tua phum mis, cawsant ddiagnosis ac ers hynny, maent yn dweud eu bod wedi cael gofal gwych—y broblem oedd cyrraedd y pwynt hwnnw. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig nodi, fel y clywsom eisoes, eu bod yn cael gofal ardderchog gan eu meddyg ymgynghorol, Jeremy Camilleri, sydd hefyd yn un o fy etholwyr. Mae bob amser yn gwneud ei orau glas i helpu, ond rhiwmatolegydd oedolion ydyw er hynny, ac ni all neilltuo mwy na chwarter ei amser ar gyfer gweithio gyda phlant. Mae’r cynnig hwn yn tynnu sylw at yr angen am arbenigwr rhewmatoleg penodedig ar gyfer plant i dde Cymru, sydd â phoblogaeth ddigon mawr i gyfiawnhau hynny.
Yn achos Harriet, fe wnaeth llawer o ffisiotherapi a chefnogaeth a’r defnydd o’r pwll hydro yn Ysbyty Athrofaol Cymru helpu i’w chael yn ôl ar ei thraed yn llythrennol. Ond mae Harriet wedi bod yn parhau i gael pyliau o boen a chwyddo yn ei phengliniau a’i fferau drwy gydol ei gyrfa ysgol. Mae hi wedi gorfod treulio llawer iawn o’i hamser yn yr ysbyty, naill ai i gael triniaeth neu i gael hylif wedi’i ddraenio o’i chymalau.
Mae hi hefyd yn colli llawer o amser ysgol, ac rwy’n credu bod colli ysgol fel hyn yn fater pwysig iawn. Cafodd ei rhieni drafferth i gael cymorth ar gyfer dysgu yn y cartref, er bod yr ysgol, Ysgol Uwchradd Llanisien, yn gwbl gefnogol ynglŷn ag anfon gwaith adref. Ond ni allodd gael tiwtor yn y cartref, felly roedd yn rhaid iddynt dalu am diwtoriaid preifat i helpu Harriet i gael 10 TGAU—tair A* a saith A—er bod ei chofnod presenoldeb yn yr ysgol yn isel iawn ac er iddi gael llawdriniaeth ar ei chymalau yn ystod y ddwy flynedd roedd ganddi arholiadau TGAU.
Felly, rwy’n teimlo’n gryf, gyda’r holl broblemau mae hi wedi’u hwynebu, a chyda chymaint o gefnogaeth gan ei rhieni, ei bod hi wedi cyflawni’n dda iawn. Roedd hi’n frwd ynglŷn â chwaraeon a bu’n gapten y tîm hoci nes ei bod yn 16 oed, pan ddywedwyd wrthi fod ei dyddiau chwarae drosodd oherwydd ei bod wedi dioddef cymaint o niwed i esgyrn ei phengliniau oherwydd yr arthritis.
Felly, gwyddom fod cannoedd o blant yn dioddef o’r cyflwr eithriadol o boenus hwn ac os na chaiff ei drin yn ystod eu plentyndod, y canlyniad fydd niwed i’r esgyrn a’r cymalau. Er bod plant angen y driniaeth yn yr ysbyty, rydym eisoes wedi clywed am anhawster teithiau hir yn y car i gael y driniaeth honno, ac mae’r teithiau hynny’n boenus iawn. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl am fodel a all fynd i’r afael â’r holl broblemau a nodwyd heddiw ac y gall ddod o hyd i ffordd o fynd i’r afael â’r salwch gwanychol pwysig hwn, y gellir ei atal ac y gellir mynd i’r afael ag ef os gwneir diagnosis yn ddigon cynnar. Diolch.