Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Rwy’n falch o gael cyd-noddi’r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon, sy’n un bwysig iawn. Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig arbenigol neu dîm amlddisgyblaethol penodedig. O ganlyniad, mae plant yng Nghymru sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid, erythematosws lwpws systemig sy’n dechrau yn ystod ieuenctid, fasgwlitis, osteoporosis idiopathig ieuenctid, ffibromyalgia, a thua 200 o gyflyrau eraill, yn cael eu gadael heb ofal arbenigol. Mae miloedd o blant o bob cwr o dde Cymru yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar wasanaeth eilradd a ddarperir yn rhan-amser gan arbenigwr rhewmatoleg oedolion heb gefnogaeth arbenigwyr nyrsio, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol, ac mae’n rhaid i rai plant deithio i Fryste neu Birmingham am driniaeth.
Yr wythnos diwethaf, mewn digwyddiad i dynnu sylw at y mater hwn, cyfarfûm â merch ifanc anhygoel o ddewr sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Mae Aimee yn wyth mlwydd oed, a dangosodd i mi’r heriau gwirioneddol y mae hi a’i theulu yn eu hwynebu o ganlyniad i’w chyflwr a’r ffaith na fydd gofal arbenigol ar gael iddi pan fydd y rhewmatolegydd presennol yn ymddeol mewn ychydig flynyddoedd. Mae Aimee wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd ifanc mewn poen, gyda chymalau stiff ac wedi chwyddo. Mae ei arthritis wedi cyfyngu ar ei phlentyndod gan ei bod yn aml yn methu gwneud y pethau y mae llawer o bobl ifanc yn eu cymryd yn ganiataol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae Aimee’n defnyddio cadair olwyn. Eglurodd ei thad, Darren, ei bod weithiau’n cael ei phryfocio neu hyd yn oed ei bwlio yn yr ysgol pan fydd hi’n defnyddio ei chadair. Mae ei chyflwr wedi effeithio ar ei haddysg gan ei bod wedi gorfod colli ysgol ar adegau, ac mae wedi effeithio ar weddill y teulu. Heb driniaeth gywir, mae risg y gallai ddatblygu anableddau gydol oes, felly mae’r clefyd hwn yn amddifadu Aimee o’i phlentyndod, ond gallai hefyd effeithio neu gyfyngu ar ei bywyd fel oedolyn. Er gwaethaf hyn i gyd, mae hi’n parhau i fywiogi’r byd â’i gwên.
Nid yw Aimee ar ei phen ei hun, yn anffodus. Mae cannoedd o blant yn ne Cymru sy’n byw gyda’r cyflwr awto-imiwn ofnadwy hwn nad oes gwellhad iddo. Mae’r bobl ifanc hyn yn haeddu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol penodedig. Mae gwasanaeth o’r fath yn hanfodol i sicrhau lleihad yn yr arthritis, cadw rheolaeth ar y clefyd, cynnal datblygiad arferol, a lleihau’r risg o anabledd gydol oes. Mae’r GIG yn Lloegr yn datgan y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol ar gyfer pob miliwn o bobl. Mae gennym tua dwy filiwn o bobl yn byw yn ne Cymru ac eto, chwarter rhewmatolegydd oedolion cyfwerth ag amser llawn sydd gennym, heb rwydwaith clinigol ffurfiol na thîm amlddisgyblaethol. Mae hyn yn annerbyniol. Rydym yn gwneud cam ag Aimee a miloedd o blant tebyg iddi.
Rwy’n annog fy nghyd-Aelodau Cynulliad i ymuno â ni i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol llawn yn ne Cymru ac i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yng ngogledd Cymru. Dyma yw ein dyletswydd i Aimee, i’r miloedd o blant sy’n dioddef o gyflyrau gwynegol, a’n dyletswydd i’r plant sydd heb gael diagnosis eto. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch. Diolch yn fawr.