Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Mi wnaf innau ddechrau drwy sôn am brofiad person ifanc, Kelly O’Keefe o Dalsarnau yng Ngwynedd, sydd yn ei hugeiniau erbyn hyn ond yn dioddef o arthritis o oed ifanc iawn. Yn cael ei thriniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl—ysbyty rhagorol, ond nid dyna’r pwynt yn fan hyn. Mi oedd ei rhieni hi’n gorfod cymryd diwrnod off o’r gwaith i fynd â hi i Lerpwl, gydag apwyntiadau’n gynnar yn y bore—weithiau am 9 o’r gloch y bore. Nid oedd hi’n teithio’n dda iawn oherwydd yr arthritis. Mi oedd hi’n cymryd dyddiau iddi ddod dros y teithio yn aml iawn. Ac mi oedd y profiad yn un sydd wedi aros efo hi hyd heddiw.
Ar y rhagdybiaeth ein bod ni yn ystyried bod teithio am bellteroedd hir am driniaeth yn rhywbeth y mae’r NHS yn ei ddefnyddio fel rhywbeth ‘last resort’—mae’n bosib ei bod hi’n annheg i wneud y rhagdybiaeth honno o ystyried faint o wasanaethau sydd wedi cael eu hallanoli i Loegr yn y blynyddoedd diwethaf—o gymryd y rhagdybiaeth yna, mae angen inni ofyn i ni ein hunain: a ydy hi’n bosib a sut mae hi’n bosib i gael y ddarpariaeth arbenigol yma yng Nghymru. Beth sydd angen ar gyfer gwasanaeth arbenigol? Wel, niferoedd cleifion, i ddechrau efo hi, ac rydym ni’n gallu gweld nad oes yna ddim problem efo cyfiawnhau hynny yn ne Cymru, yn sicr. Efallai ei bod hi ychydig bach yn fwy problematig yn y gogledd, neu, o leiaf os ydym ni’n eithrio defnyddwyr posib o ardaloedd Caer neu Amwythig, er enghraifft—sef beth rydym ni fel arfer yn ei wneud, mae’n debyg—mi ddylem ni fod yn datblygu gwasanaethau a all ddarparu i rai dros y ffin hefyd, os mai dyna sydd ei angen ar gyfer creu y ‘critical mass’.
Mae yna hefyd rywbeth yn od yn y gwahaniaeth rhwng y ffigurau poblogaeth yng Nghymru a’r niferoedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hadnabod fel cleifion yn y system. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth o 1.8 miliwn, o’i gymharu â 3.1 miliwn yng Nghymru, ac eto Cymru sydd heb wasanaeth amlddisgyblaethol, fel rydym ni’n gofyn amdano fo heddi. Mae gan yr Alban, efo poblogaeth o 5.2 miliwn, ddau wasanaeth o’r fath. Ond pan fydd hi’n dod at niferoedd y cleifion, dim ond 202 o blant oedd ar y llyfrau, fel petai, yn cael eu trin yng Nghaerdydd, yn ôl ffigurau 2014. Rŵan, os ydym ni’n ystyried, a’n bod ni’n credu, fod yna ryw 600 o blant â’r cyflwr yma yng Nghymru, mae’r mudiadau sydd yn cefnogi’r cynnig yma heddiw wedi datgan pryder am y ffigurau yma—y ffigwr o 202—achos mi allai fo olygu un ai nad yw plant yn cael diagnosis neu nad yw eu hanghenion nhw ar ôl cael diagnosis yn cael eu diwallu yn y ffordd y dylen nhw drwy gael gwasanaeth amlddisgyblaethol iawn.
Rydym ni wedi gweld o’r blaen yn aml iawn, pan fydd hi’n dod i ddarpariaeth arbenigol, fod y galw posib amdano fo’n aml yn cael ei danamcangyfrif gan swyddogion iechyd, sy’n barod iawn, mae’n ymddangos i mi, i weld Lloegr fel y darparwr arbenigol ‘default’ felly. Mae’r uned ‘perinatal’ mam a baban rydym ni wedi sôn amdani yn ddiweddar yn achos arall lle oedd y galw a’r angen yn cael eu tanamgangyfrif pan yn asesu a ddylai uned gael ei chau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod diffyg data yn broblem drwy’r NHS. Nid yw llawer o’r data rydym ni eu hangen ar gael neu’n cael eu rhannu. Mae sefydliadau fel petasent yn cynllunio, yn aml iawn, beth allen nhw ei gau neu ei symud i rywle arall yn hytrach na beth allen nhw ei greu.
Nid ydy o’n gyfrinach fod y cynnig yma wedi cael ei gyflwyno ac wedi cael ei ysbrydoli oherwydd gwaith eiriolaeth sawl mudiad sy’n cynrychioli cleifion sydd angen gwell gwasanaethau. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n cael ymateb positif gan y Llywodraeth yma o ganlyniad i hynny. Ond rwyf am ofyn y cwestiwn yma: beth am y clefydau nad oes ganddyn nhw’r un eirioli effeithiol ar ran cleifion? Allwn ni ddim bodloni ar ddarpariaeth fratiog mewn unrhyw gyd-destun. Mae yna fater ehangach i ni fan hyn hefyd, sef bod yna dybiaethau am Gymru gan reolwyr yr NHS, mae’n ymddangos i mi, sy’n golygu nad ydyn nhw’n ei weld o fel yr opsiwn ‘default’ i geisio darparu’r triniaethau arbenigol yma, neu ystyried denu cleifion o Loegr pan fyddai hynny’n ofynnol i greu ‘critical mass’. Ac, o ganlyniad, nid hwn, rwy’n meddwl, a fydd yr olaf o’r math yma o ddadl.
Mae profiad Kelly O’Keefe, rwy’n meddwl, yn adrodd cyfrolau. Mae’n sôn hefyd, oherwydd y diffyg gwasanaeth yng ngogledd Cymru, am y diffyg gwasanaethau cefnogol a oedd yn deillio o hynny. Oherwydd nad oedd yna ddim gwasanaeth, nid oedd yna ychwaith ddim grwpiau cefnogol ar gael yng ngogledd Cymru, a hynny hefyd yn gwneud y profiad, iddi hi a’i theulu, yn anos fyth. Mae’n amlwg i fi fod plant Cymru yn haeddu gwell, ac rydw i’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig yma heddiw.