Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Bydd llawer o’r Aelodau yma yn gyfarwydd â’r cefndir lleol penodol i’r ddeiseb hon, sy’n ymwneud â Stryd Womanby yng nghanol dinas Caerdydd. Cynhaliwyd ymgyrch fywiog yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon mewn ymateb i bryderon lleol ynglŷn â goblygiadau datblygiadau newydd arfaethedig yng nghanol un o ganolfannau diwylliannol ein prifddinas. Mae Stryd Womanby, yng nghanol y ddinas, wedi bod ers amser hir yn un o’i chanolbwyntiau diwylliannol a chreadigol mwyaf blaenllaw—efallai ei bod yn fwyaf enwog am y lleoliad cerddoriaeth fyw a chlwb Cymraeg, Clwb Ifor Bach. Rwy’n siŵr y byddai Aelodau eraill yma yn dymuno rhannu eu profiadau eu hunain o’r stryd, neu rai ohonynt o leiaf, yn eu cyfraniadau hwy i’r ddadl hon.
Yn gynharach eleni, arweiniodd nifer o geisiadau cynllunio yn yr ardal a’r cyffiniau ac ofnau ynghylch yr effaith y gallai’r rhain ei chael ar leoliadau cerddoriaeth fyw yno at ymgyrch ‘Achubwch Stryd Womanby’. Arweiniodd yr ymgyrch, yn ei thro, at y ddeiseb hon. Cafodd y mater sylw o’r blaen yn y Siambr hon gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Deisebau, Neil McEvoy, a llofnodwyd datganiad o farn hefyd gan nifer o’r Aelodau yma.
Cyn i mi agor y cynnig hwn i drafodaeth ehangach, rwyf am amlinellu’n fras yr hyn y clywodd y pwyllgor am yr argymhellion penodol a wnaeth y deisebwyr. Caiff egwyddor cyfrwng newid ei hyrwyddo gan y ddeiseb hon ac mewn mannau eraill fel ffordd o ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth rhag cau. Dadleuir bod cwynion a wneir gan breswylwyr mewn datblygiadau newydd am lefelau sŵn o leoliadau cerddoriaeth sefydledig wedi bod yn ffactor pwysig yn y broses o gau nifer o leoliadau cerddoriaeth ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddeiseb yn dadlau y byddai mabwysiadu egwyddor cyfrwng newid yn helpu i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol drwy fynnu y byddai unrhyw un sy’n ceisio datblygu neu ailddatblygu eiddo gerllaw yn gyfrifol am liniaru effaith y newid hwnnw. Mae hynny’n golygu, er enghraifft, pe bai tai neu westy’n cael eu hadeiladu gerllaw lleoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr fyddai lliniaru effaith a sŵn posibl o ganolfan gerddoriaeth fyw sy’n bodoli’n barod.
Mae cefnogwyr yr egwyddor cyfrwng newid yn dadlau y byddai’n cynrychioli newid pwysig o bolisïau cynllunio presennol, sy’n datgan bod pwy bynnag y rhoddir gwybod ei fod yn achosi niwsans bob amser yn gyfrifol am y niwsans hwnnw. Delir y safbwynt hwn heb ystyried pa mor hir y mae’r sŵn yr ystyrir ei fod yn niwsans wedi bodoli neu pa un a yw rhywun wedi symud i gyffiniau’r sŵn gan wybod yn iawn amdano. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr egwyddor yn gweithredu i’r ddau gyfeiriad. Felly, lle y ceir cynnig am leoliad cerddoriaeth newydd ger adeilad preswyl sy’n bodoli’n barod, byddai angen i’r cyfrwng newid, y lleoliad cerddoriaeth yn yr achos hwn, sicrhau eu bod yn cynnwys mesurau priodol i leihau sŵn.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon gyntaf ar 23 Mai. O ystyried y lefel uchel o gefnogaeth y mae’r ddeiseb wedi’i denu a’i natur amserol, penderfynodd y pwyllgor ofyn am y ddadl ar y cyfle cyntaf. Ceir arwyddion fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r ymgyrchu cryf ar y mater hefyd. Ychydig cyn i’r pwyllgor ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod yn bwriadu adolygu polisi cynllunio cenedlaethol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw. Rydym yn deall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei dymuniad i’r egwyddor cyfrwng newid gael sylw penodol yn yr adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ sy’n digwydd yn ystod yr haf, a hefyd i ddiweddaru polisi cenedlaethol er mwyn caniatáu ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol.
Ar yr olwg gyntaf, mae hyn i’w weld yn fuddugoliaeth i’r deisebwyr ac o bosibl, yn gam ymlaen ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth fyw ar draws y wlad. Edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan Aelodau eraill am hyn a sut y mae’r Cynulliad hwn yn teimlo y dylem ddiogelu dyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghymru.
O ganlyniad i’r amserlen dan sylw, nid ydym wedi gallu cynnal ymchwiliadau manwl i’r cynigion a chyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rydym yn cyflwyno’r ddeiseb hon i’r Cynulliad heb wneud argymhellion i unrhyw gyfeiriad. Mae’r pwyllgor yn gobeithio y bydd y cyfraniadau a glywn gan bob Aelod heddiw yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion i roi ystyriaeth bellach i deilyngdod y newidiadau a argymhellir gan y deisebwyr.