Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Hoffwn ddiolch i fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw. Fel y dywedwyd yn gynharach gan fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, deilliodd hyn o newid Rheol Sefydlog sy’n caniatáu i unrhyw ddeiseb â mwy na 5,000 o lofnodion gael ei hystyried ar gyfer dadl ar lawr y Siambr. Mae’n enghraifft ragorol o ymwneud uniongyrchol y cyhoedd yng ngwaith y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar adeg ein hargymhelliad i’r Pwyllgor Busnes ynglŷn â’r trothwy o 5,000 llofnod a phan gytunwyd i ofyn am ddadl ar y ddeiseb. A gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ganiatáu’r ddadl hon heddiw? Hoffwn ddiolch hefyd i Rhun ap Iorwerth a grŵp Plaid Cymru am dynnu dadl ar y mater hwn yn ôl yn gynharach eleni. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael caniatâd i gynnal dadl ar y ddeiseb pe baem wedi cael dadl Plaid Cymru chwe wythnos yn ôl. Rwy’n credu y byddai pobl wedi dweud, ‘Rydym eisoes wedi’i drafod’. Felly, a gaf fi ddweud yn onest diolch yn fawr iawn i chi am ganiatáu i hyn ddigwydd ac am ganiatáu i’r ddadl ar y ddeiseb gael ei chynnal mewn gwirionedd? Rwyf fi, a gweddill yr Aelodau yma, rwy’n siŵr, yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi gwneud hynny.
Mae’r ddeiseb yn bodloni’r holl feini prawf allweddol: mae ganddi fwy na 5,000 o lofnodion; mae hi o fudd go iawn i’r cyhoedd; ac mae’n broblem sy’n mynd i orfod cael sylw ar ryw adeg. Yn y Pwyllgor Deisebau, buom yn crafu pen dros nifer y llofnodion a’i gwnâi’n angenrheidiol i ofyn am ddadl yn awtomatig. O’i osod yn rhy uchel ni fyddai neb byth yn cyrraedd y trothwy. O’i osod yn rhy isel, byddai’r ceisiadau yn ddigwyddiad rheolaidd ac os caf ddweud, ni fyddai’r Pwyllgor Busnes yn hynod o falch o gael cais bob wythnos. Daeth y nifer o 5,000 o’r 100,000 yn San Steffan, ac rydym oddeutu 5 y cant o’r boblogaeth, ac mae wedi gweithio. Mae’r nifer wedi’i chyrraedd, ond dim ond unwaith, dros fater sydd o ddifrif wedi ennyn sylw’r cyhoedd.
Ar gerddoriaeth fyw ei hun, os edrychaf ar Abertawe a’r lleoliadau cerddoriaeth fyw a fynychwn yn y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar, mae Pafiliwn Patti yn fwyty bellach, y Marina Nite Spot, a gâi ei alw’n Dora yn lleol, wedi cau erbyn hyn, mae’r Top Rank wedi cau ac yn cael ei ddymchwel ar hyn o bryd. Agorwyd lleoliadau newydd, ond maent yn tueddu i fod yn llai o faint. Mae nifer o dafarndai a chlybiau’n darparu cerddoriaeth fyw. Yn Nhreforys mae hynny’n cynnwys, neu roedd yn cynnwys tan yn ddiweddar, llefydd fel y Millers Arms, Clwb Rygbi Treforys, clwb criced a phêl-droed Ynystawe a chlwb golff Treforys. Er bod croeso iddynt, lleoliadau bach yw’r rhain. Mae gennym Stadiwm Liberty hefyd, sydd wedi cynnal cyngherddau gan Pink a’r Stereophonics, a nifer o grwpiau mawr eraill. Ond mae gwahaniaeth, onid oes, rhwng 20,000 i 30,000 a 100? A’r bwlch bach hwnnw mewn gwirionedd yw lle rydym ar ein colled ac ar ein colled yn aruthrol.
Nid wyf yn credu y gallwch gael gormod o leoliadau cerddoriaeth. Mae pobl yn hoffi gwrando ar gerddoriaeth fyw. Dylai’r cyfle fod yno. Mae hefyd yn wir nad yw cerddoriaeth fyw hwyr y nos a fflatiau a thai bob amser yn gymdogion da, ac mae meysydd chwaraeon weithiau’n cael anawsterau gyda chymdogion ynglŷn â sŵn a’r bêl yn mynd i mewn i’w gerddi. Ar y ddau beth, mae gennyf yr un ateb: pwy oedd yno yn gyntaf? Os mai’r lleoliad cerddoriaeth neu’r maes chwarae oedd yno yn gyntaf, roedd y datblygwr a’r bobl a symudodd i mewn yn gwybod i ble roeddent yn symud. Roeddent yn gwybod beth oedd yno. Mae’n gwbl annheg i rywun symud i mewn a dechrau cwyno wedyn am rywbeth a oedd yno cyn i’r adeilad gael ei adeiladu, heb sôn am cyn i chi symud i mewn.
Mae’n fwy annheg byth os yw’r drefn drwyddedu yn ystyried hynny. Os symudwch y drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, dylech ddisgwyl clywed cerddoriaeth. Rydych yn gwybod beth yw ei drwydded. Os nad ydych yn hoffi cerddoriaeth neu gerddoriaeth hyd at yr amser ar y drwydded, peidiwch â symud yno. Yr hyn na allwn ei gael yw lleoliad cerddoriaeth sy’n cael ei gyfyngu gan bobl sy’n symud i ddatblygiadau newydd ac yn rhoi diwedd ar y gerddoriaeth neu’n sicrhau ei bod yn dod i ben mor gynnar fel na fydd pobl yn mynychu.
I’r gwrthwyneb, ni ddylech allu sefydlu lleoliad cerddoriaeth hwyr y nos yng nghanol stryd breswyl. Mae arnom angen system sy’n deg i bawb. Os yw yno, byddwch yn gwybod beth sydd yno wrth i chi symud. Fe siaradaf amdanaf fy hun: mae garej o flaen fy nhŷ. Pe bai rhywun yn penderfynu adeiladu lleoliad cerddoriaeth yno, fe fyddwn yn anhapus. Ond nid oedd yno pan symudais i mewn ac ni chefais ddewis. Pan fyddwch yn dewis symud drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, yna mae’n rhaid i chi dderbyn mai dyna rydych yn symud drws nesaf iddo. Ni allwch ddweud, ‘Rwyf wedi bod yma yn awr ers peth amser. Nid wyf yn ei hoffi.’ Roeddech yn gwybod beth oedd yno wrth i chi symud. Ni ddylai fod unrhyw drwyddedau hwyr y nos ar gyfer unrhyw leoliadau newydd ar strydoedd preswyl, ond os yw’n bodoli, ni ddylid ei gosbi am fod rhywun arall wedi adeiladu tai neu fflatiau yn agos ato. Dyna rwy’n ei alw’n ‘chwarae teg’. Diolch.