Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Prif Weinidog, rydych chi wedi sefydlu ymchwiliad i'r hyn a ddisgrifiwyd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn fel dull di-hid o gael gwared ar asedau cyhoeddus, a oedd yn gywilyddus. A disgrifiwyd y cytundeb hwn hefyd fel un o’r camgymeriadau mwyaf yn y cyfnod diweddar yng Nghymru. Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yr ymchwiliad hwn yn brawf o gymhwysedd y fframwaith cyfan o graffu a gweinyddu sy'n ffurfio gweinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru? Yn ogystal â hyn, onid yw'n wir fod camgymeriad mor fawr â hwn yn mynnu bod cydbwysedd angenrheidiol yn cael ei gadw cyn gynted â phosibl i sicrhau nad yw’r math hwn o lanast yn digwydd eto? Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod tybiaeth fod y mater hwn wedi cael ei roi o’r neilltu.