Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad bod CBCA a Llywodraeth Cymru wedi colli degau o filiynau o bunnoedd i’r trethdalwr. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi honni nad yw'n bosibl dangos bod y tir wedi cael ei werthu am lai na’i werth. Wrth ymateb i'r PCC, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod proses gyfreithiol wedi ei chychwyn, a dywedodd bod camau cyfreithiol pellach yn cael eu hadolygu. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw’r broses honno a'r camau pellach hynny yn sifil, yn rheoleiddiol neu’n droseddol? Ac, os yw'n mynd i geisio iawndal, a all ef gadarnhau bod angen iddo dderbyn yn gyntaf ei fod wedi gwneud colled?