Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Ffeithiau’r mater hwn, dim ond i gymryd Llys-faen, yw bod tir wedi cael ei werthu am £2 filiwn, y dywedwyd wythnosau’n ddiweddarach ei fod yn werth £41 miliwn. Mae'r mater yn staen ar ddatganoli, ac rwy'n credu ei fod yn staen ar eich Prif Weinidogaeth chi. A ydych chi'n cefnogi penderfyniad Heddlu De Cymru i ailagor yr ymchwiliad i gytundeb tir Llys-faen?