Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, yn bennaf, wrth gwrs, mater i'r Awdurdod Addysg Lleol yw darparu cymorth i ysgolion. Ond, yn y pen draw, mae ysgol angen tîm arweinyddiaeth cryf, ac mae hynny wedi ei sefydlu yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen. Mae'r canlyniadau yno i bawb eu gweld. Ac rydym ni’n disgwyl, wrth gwrs, i ysgolion, a'r Awdurdod Addysg Lleol, gydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor ar y sail honno.