1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad monitro diweddar Estyn ar Goleg Cymunedol y Dderwen? OAQ(5)0733(FM)
Rwy'n falch iawn o weld bod Coleg Cymunedol y Dderwen wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn ei argymhellion o'r arolygiad craidd ym mis Hydref 2015 i gael ei dynnu o'r categori mesurau arbennig. Ac rwy’n gobeithio, wrth gwrs, bod yr ysgol yn cynnal hynny ac yn parhau i wella.
Rwyf wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gweld yr adroddiad hwnnw, a bydd yn nodi mai sylwadau Nick Brain, pennaeth gweithredol yr ysgol, oedd eu bod nhw wedi hedfan allan o fesurau arbennig. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn ddigynsail hyd yn oed—mae’r newid wedi bod yn anhygoel. Rwy’n cofio yn fuan ar ôl y sefyllfa ‘bron iawn yn argyfwng’ yr aeth yr ysgol iddi, y pennaeth yn sefyll ar ei draed mewn seremoni wobrwyo yn yr ysgol honno, pan roedd eu pennau’n isel, ac yn dweud, ‘rwy’n dweud wrthych chi, byddwn ni’n gweddnewid yr ysgol hon yn gyflym iawn’ ac, erbyn yr haf hwnnw, roedden nhw wedi sicrhau’r canlyniadau TGAU gorau erioed. A wnaiff ef ymuno â mi i ganmol nid yn unig y pennaeth, ond holl staff yr ysgol, y staff cymorth, yr athrawon, pawb sy'n ymwneud â'r ysgol yno, ond hefyd y llywodraethwyr yn ogystal, a’r disgyblion hefyd? Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r ysgol, ond mae hedfan allan o fesurau arbennig yn y modd hwn, gyda chymorth awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyllid Her Ysgolion Cymru, wedi bod yn weddnewid anhygoel, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag arweinyddiaeth ar bob lefel er lles ein disgyblion a'n myfyrwyr.
Rwy'n credu bod y dadansoddiad yn hollol gywir. Mae gan Nick Brain hanes o lwyddiant mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol. Ond mae'n dangos y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth ei wneud i sefydliad sy'n mynd trwy gyfnod anodd. Mae'r staff fwy neu lai yr un rhai, mae'r disgyblion fwy neu lai yr un rhai, ond, yn amlwg, nid oedd yr arweinyddiaeth yno, yn y modd y byddai pobl wedi ei ddisgwyl. Mae yno nawr, ac mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud.
A gaf i ychwanegu fy llais innau at y teimladau hynny hefyd? Rwy'n credu bod hyn yn newyddion gwych i Goleg Cymunedol y Dderwen. Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y cwricwlwm yn cyfyngu ar barhad datblygiad sgiliau Cymraeg ac ieithoedd tramor modern y disgyblion ar hyn o bryd, a bod bwriad i fynd i'r afael â hynny yn 2017-18. Wel, gallai sgiliau dwyieithog a thairieithog hyd yn oed, fel yr wyf yn gobeithio eich bod yn derbyn, fod yn fodd o wireddu symudedd cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr. Felly, a oes unrhyw gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i’r ysgol, neu'r consortiwm sy'n gysylltiedig â hyn, neu gyngor neu gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau eu bod wir yn llwyddo yn hyn o beth yn ystod y flwyddyn i ddod?
Rydym ni’n barod, wrth gwrs, i roi cyngor, fel y bydd yr awdurdod addysg lleol. Ond rwy’n ffyddiog, gyda'r arweinyddiaeth sydd ar waith yn yr ysgol nawr, y byddant yn gallu ymateb i'r heriau a osodwyd arnynt ac, wrth gwrs, parhau â'r cynnydd da sydd wedi ei wneud.
Prif Weinidog, mae'n newyddion da bod Coleg Cymunedol y Dderwen allan o fesurau arbennig, a dylid llongyfarch y staff a'r disgyblion ar wneud cynnydd cryf yn erbyn y rhan fwyaf o argymhellion Estyn. Prif Weinidog, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd gwell o ran gwella rhifedd a llythrennedd disgyblion, a sut wnaiff eich Llywodraeth sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn cael ei effeithio gan doriadau i’r gyllideb a orfodwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol? Diolch.
Wel, yn bennaf, wrth gwrs, mater i'r Awdurdod Addysg Lleol yw darparu cymorth i ysgolion. Ond, yn y pen draw, mae ysgol angen tîm arweinyddiaeth cryf, ac mae hynny wedi ei sefydlu yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen. Mae'r canlyniadau yno i bawb eu gweld. Ac rydym ni’n disgwyl, wrth gwrs, i ysgolion, a'r Awdurdod Addysg Lleol, gydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor ar y sail honno.