Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, y pwynt rwy’n ei wneud am y gylchffordd yw bod y gylchffordd angen gwarant y Llywodraeth ar y lleiaf un. Nawr, pe byddai’r gylchffordd mewn sefyllfa ariannol gryfach, ni fyddai angen y warant arni. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw symud ymlaen gyda'r parc technoleg. Mae'n seiliedig ar drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda darpar fuddsoddwyr. Mae'n seiliedig ar y ffaith ei bod wedi bod yn anodd, ers cryn amser, denu buddsoddiad i mewn i rai rhannau o Gymru oherwydd diffyg adeiladau lle gall pobl leoli eu hunain mewn gwirionedd. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, bydd ganddo bwyslais mawr ar sgiliau. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw i swyddi gael eu creu, ond bod pobl leol yn methu â chael y swyddi hynny. A bydd y parc technoleg yn cyflawni ym mhob un o'r meysydd hynny.