1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod economi Cymru werth tua £60 biliwn y flwyddyn, ac, o hynny, gwariant cyhoeddus yw £38 biliwn ohono, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru—tua dwy ran o dair o'r cyfanswm. A yw'n cytuno â mi bod angen dirfawr am fwy o arallgyfeirio? Mae angen i ni gael mwy o gyfalaf preifat i mewn i Gymru, i greu mwy o gyfoeth i godi’r sylfaen dreth, ac, felly, i gael y cyfle i wario mwy ar ysgolion, ysbytai, ac ati. A dyna pam roedd y penderfyniad ar Gylchffordd Cymru yn arbennig o siomedig, oherwydd roedd hwnnw’n brosiect a oedd yn cynnig gwerth £315 miliwn o gyfalaf preifat i ddod i Gymru, a nawr nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, ac yn hytrach rydym ni’n mynd i wario gwerth £100 miliwn arall o arian trethdalwyr ar barc diwydiannol gwag. Onid yw hyn yn feirniadaeth ar Lywodraeth Cymru, ar ôl 20 mlynedd, ein bod ni wedi symud tuag at yn ôl yn hytrach nag ymlaen?
Wel, y pwynt rwy’n ei wneud am y gylchffordd yw bod y gylchffordd angen gwarant y Llywodraeth ar y lleiaf un. Nawr, pe byddai’r gylchffordd mewn sefyllfa ariannol gryfach, ni fyddai angen y warant arni. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw symud ymlaen gyda'r parc technoleg. Mae'n seiliedig ar drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda darpar fuddsoddwyr. Mae'n seiliedig ar y ffaith ei bod wedi bod yn anodd, ers cryn amser, denu buddsoddiad i mewn i rai rhannau o Gymru oherwydd diffyg adeiladau lle gall pobl leoli eu hunain mewn gwirionedd. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, bydd ganddo bwyslais mawr ar sgiliau. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw i swyddi gael eu creu, ond bod pobl leol yn methu â chael y swyddi hynny. A bydd y parc technoleg yn cyflawni ym mhob un o'r meysydd hynny.
Wel, y cwbl y bydd y parc technoleg yn ei wneud yw darparu cyfres o adeiladau gwag. Nid oes unrhyw ddiddordeb yn yr adeiladau hynny y gall y Prif Weinidog gyfeirio ato sy’n rhoi unrhyw sicrwydd y byddan nhw’n cael eu meddiannu gan unrhyw gwmni modurol, nac unrhyw gwmni arall, mewn gwirionedd, ond, o leiaf gyda thrac rasio o’r radd flaenaf, yng ngoleuni penderfyniadau a allai gael eu gwneud yn Silverstone, lle gallai fformiwla 1 symud i ffwrdd, yna mae hon yn ganolfan amlwg i ffurfio clwstwr o ddiwydiannau cysylltiedig. Heb hynny, nid oes fawr o obaith y bydd hyn yn ddim mwy llwyddiannus nag ardal fenter Glynebwy o ran denu swyddi i ran o'r byd sydd eu hangen yn daer.
Wel, fel y dywedais, y gwir amdani yw hyn: rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr ac mae diddordeb. Nid ydym ni’n bwriadu codi adeilad yno na fydd yn cael ei lenwi. Y rheswm pam yr ydym ni’n symud ymlaen yw oherwydd ein bod ni wedi gwrando ar safbwyntiau, ac rydym ni wedi gwrando ar gwmnïau—cwmnïau fel TVR, sy'n dod i Lynebwy, ac eraill—sydd â diddordeb mewn creu’r clwstwr modurol hwnnw. Dywedodd pob un ohonynt wrthym nad oedd cylchffordd yn hanfodol i’w cynlluniau busnes, a’u bod nhw’n dal yn awyddus i weithio gyda ni i ddarparu'r swyddi hynny. Cofiwch, wrth gwrs, mai prin iawn yw’r swyddi y byddai'r gylchffordd ei hun wedi eu creu. Cam 2—y parc technoleg, yr ydym ni’n bwriadu ei adeiladu—fyddai wedi creu mwyafrif y swyddi.
Wel, wrth gwrs, dywedwyd gan y datblygwyr o’r cychwyn mai mantais fawr y cyfleuster hwn oedd bod yn ganolfan i gasgliad llawer mwy o gwmnïau a fyddai'n cynhyrchu swyddi yn economi go iawn gweithgynhyrchu am flynyddoedd lawer iawn i ddod. Mae’r swyddi hynny yn llawer llai pendant nag o'r blaen erbyn hyn, ond yn hytrach na gwarant gan y Llywodraeth, efallai na fyddai fyth galw amdani, mae gennym ni addewid gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru nawr i wario arian go iawn—arian trethdalwyr; hyd at £100 miliwn dros 10 mlynedd—heb unrhyw sicrwydd bod yr un swydd yn dod allan o hynny y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu. Felly, oni ddylem ni fod yn gwneud llawer mwy nag yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddiad sector preifat, fel y dywedais i yn fy nghwestiwn cyntaf, er mwyn codi’r sylfaen dreth fel bod gan Lywodraeth Cymru fwy o adnoddau ar gael iddi i'w gwario ar yr holl amcanion cymdeithasol hynod ddymunol yr ydym ni i gyd yn eu rhannu?
Wel, nid wyf yn anghytuno â'r pwynt y mae'n ei wneud. Rwy’n ei atgoffa, wrth gwrs, am gyhoeddiad Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yr wythnos diwethaf o greu 300 o swyddi yng Nghasnewydd. Rydym ni newydd weld ein ffigurau buddsoddiad uniongyrchol tramor gorau ers bron i 30 mlynedd. Mae'n arwydd bod Cymru yn lle y mae busnesau eisiau buddsoddi ynddo, ein bod ni’n cael gwell swyddi. Ar ddechrau’r 1990au, denwyd buddsoddiad i Gymru ar y sail bod gennym ni’r cyfraddau cyflog isaf yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd ac ni ddylent fyth ddod yn ôl. Rydym ni’n gallu denu swyddi i Gymru yn gynyddol ar y sail bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen, bod gennym ni, i ddyfynnu Aston Martin, Lywodraeth â balchder ac angerdd o ran gwerthu Cymru i'r byd, ac mae'r canlyniadau a welwn i fuddsoddiad uniongyrchol tramor yn siarad drostynt eu hunain.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. A ydych chi’n credu bod Cymru yn symud tuag at addysg uwch rhad ac am ddim neu ymhellach i ffwrdd oddi wrth hynny?
Rwy’n credu ein bod ni wedi cyflwyno pecyn teg o gyllid ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni’n falch, fel Llywodraeth, o’i wneud. Bydd y pecyn sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru yn fwy hael na'r rheini yn Lloegr.
Rwy’n gwybod ei bod hi’n ddiwedd y tymor, Prif Weinidog, ond nid oedd hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn. Rwyf i wedi clywed amrywiaeth o wahanol ymdrechion i gyfiawnhau y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon ac y tu allan iddi gennych chi ac aelodau'r Cabinet, ond mae’r hyn yr wyf i’n ei glywed gan fyfyrwyr yn wahanol iawn. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr o’r farn y dylai ffioedd dysgu gael eu rhewi ac maen nhw’n dweud bod y cyhoeddiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn gam enfawr at yn ôl. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn rhwystro mynediad at addysg yn hytrach na’i helpu, ac maen nhw’n dweud y dylai fod camau ymarferol tuag at addysg uwch rhad ac am ddim. Roedd y myfyrwyr hynny yn dyfynnu yr hyn a oedd, hyd at yr wythnos diwethaf, yn bolisi’r Blaid Lafur. Pam ydych chi wedi troi eich cefn arnynt?
Wel, cytunodd UCM i adolygiad Diamond, felly mae'n syndod eu bod nhw’n dweud nawr nad ydyn nhw’n cefnogi'r hyn a gynigir. Wrth gwrs, byddan nhw eisiau cynrychioli myfyrwyr—rydym ni’n deall hynny. Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud yw darparu cyllid hefyd — [Torri ar draws.] Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud hefyd yw darparu, am y tro cyntaf, cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, sy’n eithriadol o bwysig. Rydym ni’n cadw at, wrth gwrs, yr addewidion maniffesto a wnaed gennym yn 2016.
Ni argymhellodd adolygiad Diamond gynnydd i ffioedd, Prif Weinidog. A hefyd, cytunodd nifer o bartïon i gymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw, ond ni wnaethant gytuno i weithredu pa bynnag ganlyniad a argymhellwyd. Eich Llywodraeth chi sy’n gyfrifol am hynny. Prif Weinidog, rydych chi wedi troi eich cefn ar fyfyrwyr, ac mae’n rhaid eich bod chi’n clywed yr un negeseuon yr ydym ni wedi bod yn eu clywed. Mae Plaid Cymru o’r farn bod addysg uwch yn fudd cyhoeddus ac y dylid ei hariannu ar draws y gyllideb addysg gan gymdeithas gyfan. Mae myfyrwyr eisiau i'w prifysgolion gael eu hariannu’n well trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a thrwy eich Llywodraeth chi, nid o'u pocedi eu hunain. Ni ddylai myfyrwyr gymryd baich y galw hwnnw am well cyllido oherwydd mae bwlch cyllido hanesyddol yn bodoli oherwydd eich diffyg buddsoddiad chi fel Llywodraeth. Rydych chi eisiau i fyfyrwyr dalu am y bwlch cyllido. Rydym ni’n credu bod hynny'n anghyfiawn.
Nawr, rwy’n nodi—[Torri ar draws.]—y gwnaed y cyhoeddiad yn ystod gwyliau’r haf—
A gawn ni ganiatáu i arweinydd Plaid Cymru barhau os gwelwch yn dda? Nid ydym ni angen i gyhuddiadau gael eu taflu o gwmpas y Siambr. Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Gwnaed y cyhoeddiad hwnnw yn ystod gwyliau'r haf, pan roedd myfyrwyr eisoes wedi gadael y campws. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, a wnewch chi roi rhywfaint o newyddion da haeddiannol i’r myfyrwyr hynny nawr a throi eich cefn ar y cynnydd hwnnw i ffioedd dysgu neu onid yw’r Blaid Lafur yn credu mewn addysg uwch rhad ac am ddim mwyach?
Wel, yn gyntaf oll, rwy’n synnu o glywed ei bod hi'n ymbellhau ei hun o adolygiad Diamond, sy'n newyddion i mi, mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn. Yn ail, nid yw'n ddigon iddi ddweud ei bod hi eisiau i ffioedd dysgu gael eu diddymu heb ddweud o ble mae'r arian yn mynd i ddod. Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud hynny—[Torri ar draws.] Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud, yng Nghymru, eich bod chi eisiau diddymu ffioedd dysgu ac yna peidio â dweud o ble mae'r arian yn dod. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r byd go iawn. [Torri ar draws.] Yn ail—
Gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn ymateb. Gadewch i ni ganiatáu i'r Prif Weinidog ymateb.
Yn ail, a yw hi'n dweud ffioedd ar gyfer israddedigion, neu i ôl-raddedigion hefyd? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen iddi ei egluro. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw cydnabod nad yw cyllid ôl-raddedig wedi bod ar gael ar lefelau digonol yn y gorffennol, ac felly mae'r pecyn yr ydym ni’n ei gynnig i israddedigion ac ôl-raddedigion yn deg ac yn well na’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol yr adroddiad hwn ar gysylltiadau cytundebol bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates, sydd, i’r anghyfarwydd, yn gwmni adnoddau dynol. Yn y 10 mlynedd yr wyf i wedi bod yn y Cynulliad hwn—ac rwyf i wedi gweld cryn dipyn o adroddiadau, er tegwch, yn y 10 mlynedd hynny—mae hwn yn amlwg yn un o'r adroddiadau mwyaf damniol a welais. Byddwn yn ddiolchgar o ddeall eich safbwynt chi arno, o ystyried y crybwyllir Llywodraeth Cymru mewn sawl cyfeiriad ynglŷn â rhoi caniatâd i’r contractau gael eu cytuno â’r unigolyn hwn ac, yn anad dim, bod ar y panel dethol a ganiataodd i’r unigolyn symud ymlaen a chymryd y lle hwn gyda bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn y pen draw.
Wel, mae'r rhain yn faterion, yn y pen draw, i’r bwrdd eu hesbonio, ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn siarad â'r bwrdd iechyd er mwyn cael esboniad ganddyn nhw a bydd, wrth gwrs, yn hysbysu’r Cynulliad maes o law.
Prif Weinidog, roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi cael eich briffio’n llawer gwell na hynna. Nid dim ond mater i fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yw hwn o bell ffordd. Mae hwn yn fwrdd sy’n destun rhyw fath o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru—craffu ariannol, yn arbennig, gan ei fod yn wynebu diffyg ariannol enfawr o £30 miliwn i £35 miliwn, yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, yn y flwyddyn ariannol hon. Roedd y contract a gytunwyd a’r telerau cyflogaeth mewn rhai agweddau yn talu £1,000 y dydd a threuliau, a TAW, yn ôl yr archwilydd cyffredinol. Nid oes unrhyw dryloywder neu ddim ond ychydig iawn; Nid oes unrhyw ymatebolrwydd neu ddim ond ychydig iawn. Ceir anallu i'r archwilydd cyffredinol ddeall mewn gwirionedd sut y gwnaed y penodiadau, oherwydd mae hi’n ymddangos, ymhlith cyn uwch swyddogion y bwrdd iechyd, bod pwyntio bys at rywun arall o ran bod wedi gwneud penderfyniad yn digwydd, ac felly dim ond mynd rownd a rownd mewn cylchoedd mae pethau. Yr un person eglur sy’n rhan o hyn, gan ei bod hi ar y panel dethol pan wnaed y penodiad terfynol, yw cadeirydd y bwrdd iechyd, a oedd yn rhan o’r dethol hwnnw. A oes gennych chi ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd o ystyried y cyhuddiadau a wnaed—nid y cyhuddiadau, mae’n ddrwg gen i—y cynigion a wnaed yn yr adroddiad hwn gan yr archwilydd cyffredinol ei hun? Oherwydd rydym ni wedi ei weld dro ar ôl tro: pan fydd y pethau hyn yn mynd allan o reolaeth, gallant arwain at ganlyniadau trychinebus i’r gwaith o redeg a rheoli'r bwrdd iechyd wrth ddarparu gwasanaethau yma yng Nghaerdydd a'r Fro.
Wel, yn gyntaf oll, nid yw'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Dywedodd ei fod yn fath o fesurau arbennig, ond nid yw'n destun mesurau arbennig mewn gwirionedd o ran y diffiniad o'r term. Yn ail, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn mynd i’r afael â’r mater gyda'r bwrdd iechyd, yn mynnu atebion, a bydd yr atebion hynny yn cael eu rhannu â'r Cynulliad.
Sylwaf na wnaethoch chi roi pleidlais o ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd, a chynigiais y cyfle hwnnw i chi. Oni allwch chi ddeall pa mor rhwystredig a pha mor ddig y mae aelodau'r bwrdd iechyd yn teimlo pan fyddant yn gweld adroddiad fel hwn sy'n nodi ymgynghorwyr yn cael eu cyflogi am £1,000 y dydd a threuliau? Dros y 18 mis o gyflogaeth, £26,000 a TAW mewn treuliau yn unig—mae hynny'n fwy nag y mae nyrs yn dechrau arno, hynny. Ac yna, pan gynigiwyd contract terfynol, daethant at Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i godi'r uchafswm o £136,000 y flwyddyn i £150,000 y flwyddyn. Nawr, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod yn y newyddion oherwydd yr achos llys ddydd Gwener diwethaf—bod staff yn wynebu erlyniad a hefyd gofynion am daliadau o ddirwyon a gafwyd. Ond, yn bwysicach, bydd dicter mawr ymhlith aelodau allweddol o'r bwrdd iechyd a chleifion sy'n defnyddio'r bwrdd iechyd pan fyddant yn deall y natur ddi-hid y mae’r sefyllfa hon wedi codi ynddi. Ni ellir caniatáu iddo barhau. Fel y dywedais, gofynnwyd am ganiatâd Llywodraeth Cymru i alluogi’r trefniadau hyn i symud ymlaen, a rhoddodd Llywodraeth Cymru ei chaniatâd. Felly, mae gennych chi swyddogaeth allweddol i ddeall hyn a gwneud yn siŵr na fydd yn digwydd eto. Nodaf hefyd fod cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth iechyd wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i ddarganfod a oes unrhyw drefniadau fel hyn mewn byrddau iechyd eraill. A ydych chi mewn sefyllfa i egluro'r sefyllfa o ran eich dealltwriaeth o'r trefniadau, yn enwedig pan ddaw i ymgyngoriaethau fel hyn mewn rhannau eraill o Gymru a allai ddod ag anfri ar y gwasanaeth iechyd?
Wel, yn gyntaf oll, mae gen i ffydd yn y cadeirydd. Yn ail, mae’r mater hwn yn rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo ymhellach, a bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hysbysu am beth fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw mewn gwirionedd.
Soniodd am y mater o barcio ceir staff. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Mae'n bwysig, rwy’n credu, fod y rhesymeg sy’n sail i'r achos llys yn cael ei ddeall. Y rheswm pam y cymerwyd camau gorfodi oedd oherwydd y bu marwolaeth ar y safle, yn rhannol o ganlyniad i barcio anghyfreithlon ac yn rhannol oherwydd llif y traffig sy'n mynd drwy'r safle. Mae tua 16,000 o symudiadau traffig yn mynd trwy Ysbyty Athrofaol Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n iawn y ceir gorfodaeth briodol ar gyfer parcio anghyfreithlon ac anniogel. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd ar safle sydd mor brysur â hyn. Mae’n anodd gwybod pam yr aeth yr unigolion hyn i'r llys a pha gyngor a gawsant. Gwn fod un ohonynt yn benodol wedi cael 59 o docynnau parcio. Unwaith eto, ni roddir unrhyw esboniad pam mae hynny’n bod. Mae'n anffodus i’r unigolion hynny—rwy’n deall hynny—ond mae'n hynod bwysig bod gorfodaeth briodol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru o ran diogelwch, ac i atal pobl rhag parcio yno drwy'r dydd, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan gleifion sy'n cyrraedd y safle leoedd i barcio. Felly, mae’n rhaid i orfodi ddigwydd. Fel arall, a ydym ni’n dweud y gall pobl barcio yno heb ofni unrhyw fath o gosb? Mae pethau wedi mynd yn bell iawn o ran tri unigolyn; mae'n anodd gwybod pam mae hynny’n bod. Gallaf ddweud bod y syniad eu bod yn wynebu costau o £150,000 yn lol. Nid ydym yn gwybod o ble mae’r ffigur hwnnw wedi dod ac nid oes unrhyw sail iddo mewn gwirionedd. Ond mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn safle lle mae llawer iawn o draffig yn symud, ac mae angen gorfodaeth ar gyfer y symud hwnnw.