<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:42, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gwybod ei bod hi’n ddiwedd y tymor, Prif Weinidog, ond nid oedd hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn. Rwyf i wedi clywed amrywiaeth o wahanol ymdrechion i gyfiawnhau y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon ac y tu allan iddi gennych chi ac aelodau'r Cabinet, ond mae’r hyn yr wyf i’n ei glywed gan fyfyrwyr yn wahanol iawn. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr o’r farn y dylai ffioedd dysgu gael eu rhewi ac maen nhw’n dweud bod y cyhoeddiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn gam enfawr at yn ôl. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn rhwystro mynediad at addysg yn hytrach na’i helpu, ac maen nhw’n dweud y dylai fod camau ymarferol tuag at addysg uwch rhad ac am ddim. Roedd y myfyrwyr hynny yn dyfynnu yr hyn a oedd, hyd at yr wythnos diwethaf, yn bolisi’r Blaid Lafur. Pam ydych chi wedi troi eich cefn arnynt?