<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ni argymhellodd adolygiad Diamond gynnydd i ffioedd, Prif Weinidog. A hefyd, cytunodd nifer o bartïon i gymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw, ond ni wnaethant gytuno i weithredu pa bynnag ganlyniad a argymhellwyd. Eich Llywodraeth chi sy’n gyfrifol am hynny. Prif Weinidog, rydych chi wedi troi eich cefn ar fyfyrwyr, ac mae’n rhaid eich bod chi’n clywed yr un negeseuon yr ydym ni wedi bod yn eu clywed. Mae Plaid Cymru o’r farn bod addysg uwch yn fudd cyhoeddus ac y dylid ei hariannu ar draws y gyllideb addysg gan gymdeithas gyfan. Mae myfyrwyr eisiau i'w prifysgolion gael eu hariannu’n well trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a thrwy eich Llywodraeth chi, nid o'u pocedi eu hunain. Ni ddylai myfyrwyr gymryd baich y galw hwnnw am well cyllido oherwydd mae bwlch cyllido hanesyddol yn bodoli oherwydd eich diffyg buddsoddiad chi fel Llywodraeth. Rydych chi eisiau i fyfyrwyr dalu am y bwlch cyllido. Rydym ni’n credu bod hynny'n anghyfiawn.

Nawr, rwy’n nodi—[Torri ar draws.]—y gwnaed y cyhoeddiad yn ystod gwyliau’r haf—