Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, yn gyntaf oll, rwy’n synnu o glywed ei bod hi'n ymbellhau ei hun o adolygiad Diamond, sy'n newyddion i mi, mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn. Yn ail, nid yw'n ddigon iddi ddweud ei bod hi eisiau i ffioedd dysgu gael eu diddymu heb ddweud o ble mae'r arian yn mynd i ddod. Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud hynny—[Torri ar draws.] Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud, yng Nghymru, eich bod chi eisiau diddymu ffioedd dysgu ac yna peidio â dweud o ble mae'r arian yn dod. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r byd go iawn. [Torri ar draws.] Yn ail—