Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Brif Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau ddydd Gwener yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Wenidog na fydd y fasnachfraint yn un lle mae elw yn dychwelyd i gyd i’r Llywodraeth, ond yn un lle rydych chi’n gorfod contractio gyda chwmni preifat. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd, felly, i sicrhau bod unrhyw elw sydd yn dod o dwf a’r buddsoddiad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y fasnachfraint yna yn cael ei ddychwelyd i bobl yn sir Benfro a thu hwnt, ac nad ydym yn gweld y sefyllfa bresennol lle mae un cwmni yn gwneud elw ar gefn arian cyhoeddus?