<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus (Sir Benfro)</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn sir Benfro? OAQ(5)0729(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 18 Gorffennaf 2017

Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer 2015-20 ym mhob rhan o Gymru.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:52, 18 Gorffennaf 2017

Brif Weinidog, yn ddiweddar mae eich Llywodraeth chi unwaith eto wedi penderfynu peidio â blaenoriaethu unrhyw orsafoedd trenau yn sir Benfro, er gwaethaf bod rhai gorsafoedd, fel gorsaf Aberdaugleddau er enghraifft, angen gwelliant sylweddol. Nawr, rydw i’n gwerthfawrogi, pan fyddwch chi fel Llywodraeth yn buddsoddi arian mewn prosiectau rheilffyrdd, y byddwch chi’n gwneud hyn gyda rhanddeiliaid fel Network Rail, Arriva Trains ac ati, ond i ystyried eich bod chi’n gwario arian sylweddol, a allech chi ddweud wrthym ni beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu gwelliannau yn cael ei ddosbarthu’n deg, fel bod pob rhan o Gymru o leiaf yn cael ei ystyried?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Mae yna griteria, wrth gwrs, sy’n agored ac sy’n gallu cael eu gweld, sydd yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau pa orsafoedd ddylai gael eu cefnogi dros y blynyddoedd. Mae hon yn broses hollol agored. Nid yw hi’n rhoi unrhyw fath o bwyslais ar un rhan o Gymru neu’r llall. Mae’n ystyried pa lefydd sydd eisiau’r buddsoddiad. Wrth gwrs, trwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru agorodd gorsaf tref Abergwaun, wrth gwrs, ar ôl sawl blwyddyn wedi cau. Mae yna fwy o wasanaethau hefyd ar y rheilffordd hwnnw, ac rŷm ni wastad, wrth gwrs, yn ystyried ym mha ffordd y gallwn ni helpu i wella’r gwasanaeth rheilffordd a hefyd y gwasanaeth bysiau yn sir Benfro.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Brif Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau ddydd Gwener yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Wenidog na fydd y fasnachfraint yn un lle mae elw yn dychwelyd i gyd i’r Llywodraeth, ond yn un lle rydych chi’n gorfod contractio gyda chwmni preifat. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd, felly, i sicrhau bod unrhyw elw sydd yn dod o dwf a’r buddsoddiad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y fasnachfraint yna yn cael ei ddychwelyd i bobl yn sir Benfro a thu hwnt, ac nad ydym yn gweld y sefyllfa bresennol lle mae un cwmni yn gwneud elw ar gefn arian cyhoeddus?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 18 Gorffennaf 2017

Byddai hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn i’n ei dderbyn. Gallaf ddweud hynny a dim byd arall, rwy’n credu. Nid yw’r cyfle gyda ni i redeg y gwasanaeth rheilffordd ein hunain neu drwy gwmni rydym ni’n ei reoli. Ond, wrth gwrs, mae’n hollbwysig bod gyda ni fodel sydd mor agos ag sy’n bosib at fodel sydd yn ailfuddsoddi unrhyw elw yn ôl yn y gwasanaeth ei hunan, a hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod pobl Cymru yn gweld cynnydd yn y lefel o wasanaeth—nid dim ond ynglŷn â mwy o drenau, ond mwy hefyd, wrth gwrs, o drenau sydd yn drenau da i deithio arnyn nhw. Mae hynny yn rhywbeth sydd yn hollbwysig fel rhan o’r ‘franchise’.