Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd ardaloedd menter y 1980au yn llwyddiannus yng Nghymru, gyda'r fwyaf yn Abertawe yn troi’n ardal siopa fawr y tu allan i'r dref. Yn wir, defnyddir y term 'ardal fenter' yn Abertawe i ddiffinio ardal siopa y tu allan i'r dref. Pryd mae’r ardaloedd presennol yn mynd i gael eu hadolygu, a beth fydd yn cynrychioli llwyddiant?