<p>Ardaloedd Menter</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ardaloedd menter? OAQ(5)0732(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo wyth ardal fenter bresennol sydd wedi eu lleoli ledled Cymru, a bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi’n fuan i roi manylion sut y mae hynny'n cael ei gyflawni.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd ardaloedd menter y 1980au yn llwyddiannus yng Nghymru, gyda'r fwyaf yn Abertawe yn troi’n ardal siopa fawr y tu allan i'r dref. Yn wir, defnyddir y term 'ardal fenter' yn Abertawe i ddiffinio ardal siopa y tu allan i'r dref. Pryd mae’r ardaloedd presennol yn mynd i gael eu hadolygu, a beth fydd yn cynrychioli llwyddiant?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae llwyddiant, wrth gwrs, yn golygu creu mwy o swyddi. Nid yw'n golygu creu parc siopa arall, a ddigwyddodd, fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir, yng Nghwm Tawe isaf ddechrau’r 1980au. Gallaf ddweud, o ran llywodraethu, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeiryddion byrddau ardaloedd menter ar 12 Mehefin i gael trafodaeth gychwynnol ynghylch llywodraethu ardaloedd menter a chyfeiriad y rhaglen ardaloedd menter yng Nghymru yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyfarfod â'r cadeiryddion eto ddiwedd yr haf i barhau â’r trafodaethau hynny, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn bodloni gofynion y Llywodraeth a pholisi Llywodraeth sy'n dod i'r amlwg.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ceir wyth ardal fenter ledled Cymru. Nid oes yr un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Byddwn i’n dweud, yn y canolbarth, bod diddordeb mawr mewn entrepreneuriaeth a bod lefel uwch o fusnesau newydd nag efallai mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: a ydych chi’n credu bod achos dros ardal fenter, neu gytundeb twf, ar gyfer y canolbarth, sy’n canolbwyntio'n arbennig ar dyfu busnesau a chreu swyddi sy'n talu'n well?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn bob amser yn archwilio’r achos hwnnw. Hynny yw, mae dau beth yn bwysig i’w etholaeth ef. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ceir seilwaith, gyda band eang yn un elfen o hynny. Yn ail, ceir problem gyda'r grid trydan, sy’n ddadleuol, rwy’n deall, yn ei etholaeth ef, ond nid yw’r grid presennol yn arbennig o gryf pan ddaw i ddatblygu gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae e'n gwybod, fel y gwn innau, pa mor ddadleuol yw peilonau yn ei etholaeth, felly fe wnaf i ei gadael hi yn y fan yna. Ond, mae'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol. Ond, rwy'n fwy na pharod i ystyried sut y gallai cytundeb twf o'r fath edrych, sut y byddai'n gweithio yn ddaearyddol, hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rwy’n rhannu ei awydd i weld mwy o swyddi a gwell swyddi yn nes at y cartref.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:57, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o bobl yn teimlo bod Cylchffordd Cymru yn gyfle enfawr a gollwyd i ardal fenter Glynebwy. Yr wythnos diwethaf, gan gyfeirio at gyfarfod a drefnwyd ymlaen llaw gyda'r cwmni, dywedasoch fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Martin Whitaker,

Yn amlwg mae’r datganiad hwnnw yn anghywir.

Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oeddem yn cytuno â'r asesiad hwn.

Prif Weinidog, pa un ohonoch chi sy’n dweud celwydd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae’r hyn a ddywedais yn gywir. Rwy’n cadw at fy ngeiriau.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Mae’r olaf o’r wyth ardal fenter hynny ym Mhort Talbot mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, a hi yw'r unig un yng Ngorllewin De Cymru. Ond mae'n bwysig ein bod ni’n gweld hynny’n cael ei ddefnyddio nawr i wir dyfu'r economi leol a thyfu busnesau lleol. Sut ydych chi'n monitro’r cynnydd yn yr ardal fenter honno i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd a bod diben yr ardal fenter yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n ffyddiog bod yr ardal fenter yn gweithio'n dda ym Mhort Talbot. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod cyfle ar gyfer gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf; y datblygiad, er enghraifft, o seilwaith TGCh llawn a fydd yn datblygu perthynas i ni gyda Tata Port Talbot; datblygu gallu ynni ac amgylchedd yr ardal fenter; adeiladu unedau busnes ac unedau swyddfa priodol; a chynorthwyo'r gwaith o adeiladu canolfan arloesi bae Baglan. Gallaf ddweud, ers sefydlu’r ardal, bod nifer o ymholiadau wedi eu derbyn, yn gofyn am wybodaeth am gymorth ar gyfer twf neu leoliadau newydd. Mae'r rhain ar y camau datblygu cynnar, ond ceir rhai mewnfuddsoddiadau sylweddol, o bosibl.