<p>Ardaloedd Menter</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n ffyddiog bod yr ardal fenter yn gweithio'n dda ym Mhort Talbot. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod cyfle ar gyfer gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf; y datblygiad, er enghraifft, o seilwaith TGCh llawn a fydd yn datblygu perthynas i ni gyda Tata Port Talbot; datblygu gallu ynni ac amgylchedd yr ardal fenter; adeiladu unedau busnes ac unedau swyddfa priodol; a chynorthwyo'r gwaith o adeiladu canolfan arloesi bae Baglan. Gallaf ddweud, ers sefydlu’r ardal, bod nifer o ymholiadau wedi eu derbyn, yn gofyn am wybodaeth am gymorth ar gyfer twf neu leoliadau newydd. Mae'r rhain ar y camau datblygu cynnar, ond ceir rhai mewnfuddsoddiadau sylweddol, o bosibl.