Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rydym ni’n gweithio'n agos iawn, wrth gwrs, gyda chyflogwyr gan ein bod ni’n gwybod bod dysgu seiliedig ar waith yn hynod bwysig i ddatblygu sgiliau pobl yn y dyfodol. Rydym ni’n ystyried sut i ddatblygu cyflogadwyedd pobl a sut yr ydym ni’n gweithio gyda busnesau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.