Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo bod pobl ifanc yn gadael y system addysg heddiw heb y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y farchnad lafur. Mae gan lawer o bobl radd, er enghraifft, ond nid yw cyflogwyr o’r farn eu bod yn barod ar gyfer gwaith. A ydych chi'n meddwl y dylid ailwampio’r system prifysgolion yng Nghymru?