<p>Lleisiau Cleifion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ni chroesawyd y datganiad hwnnw gan feinciau'r Ceidwadwyr. Roedden nhw’n cwyno amdano. Rwy'n synhwyro brwdfrydedd yr Aelod, sy'n wych, ond nid yw cymaint â’r Aelod dros Dorfaen, y mae ei frwdfrydedd yno i bawb ei weld yn y Siambr ei hun. Ond mae hyn yn dangos, wrth gwrs, ein bod ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd modern i’n pobl, ac mae hon yn enghraifft wych o hynny'n digwydd o dan Lywodraeth Llafur Cymru.